Efallai ei bod hi’n rhewllyd y tu allan ond ni rwystrodd hyn dysgwyr ar gampws Ystrad Mynach a oedd yn awyddus i helpu codi arian ar gyfer mab eu tiwtor, Oliver. Cododd dysgwyr y Diploma Estynedig Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol £190 trwy gynnal stondin a raffl; yn gwerthu cynnyrch i gyd-ddysgwyr a staff.
Gan ddiolch i’r dysgwyr, dywedodd Tiwtor y Cwrs, Phillip Webber, Rwyf yn falch iawn o’m grŵp a’u cymhelliant, nid yn unig wrth godi arian ar gyfer fy mab dewr, Oliver ond am godi ymwybyddiaeth o’i gyflwr.
Am ragor o wybodaeth am daith ‘Calon a Bwydo’ Oliver ewch i https://www.facebook.com/oliversjourneyx/
“