Mae pedwar o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer gwobrau
cenedlaethol sy’n dathlu’r prentisiaid mwyaf addawol a thalentog yng Nghymru.
Mae William Davies; Bethany Mason; Connor Paskell a Sophie Williams i gyd wedi cyrraedd
rhestr fer Gwobrau Prentisiaethau Cymru eleni, sy’n cydnabod gwaith caled a chyflawniadau
unigolion a sefydliadau sy’n ymwneud â rhaglenni prentisiaeth yng Nghymru.
Mae’r gwobrau, a drefnir gan Lywodraeth Cymru a Ffederasiwn Hyfforddiant Cenedlaethol
Cymru (NTfW), yn cydnabod cyfraniad pawb sydd wedi chwarae rhan allweddol yn rhaglenni
Cyflogadwyedd a Phrentisiaeth Llywodraeth Cymru, gyda chategorïau penodol ar gyfer
unigolion, darparwyr dysgu, a chyflogwyr.
Y cyntaf i gynrychioli Coleg y Cymoedd yw William Davies, sy’n ugain oed ac yn dod o Aberdâr, a
enwebwyd ar gyfer categori ‘Prentis y Flwyddyn’ ar ôl creu argraff ar ei gyflogwyr yn Kautex
Textron CVS Cyf yn Ystrad Mynach. Ers ymuno â’r cwmni yn 2018, mae William eisoes wedi
arbed £20,000 y flwyddyn i Kautex ar gostau llafur drwy awtomeiddio’r system cydosod
cynnyrch. Hefyd, bu’n yn allweddol wrth weithredu nifer o welliannau iechyd a diogelwch a
chynhyrchedd ynghyd â rheoli prosiect i adnewyddu ffreutur a’i gwneud yn ddiogel rhag Covid.
Mae’r darpar beiriannydd siartredig wedi gwneud argraff yr un mor fawr yn y coleg, gan ennill
gwobr ‘Prentis y Flwyddyn’ Coleg y Cymoedd ddwy flynedd yn olynol. Hefyd, cwblhaodd ei
Brentisiaeth mewn Gweithgynhyrchu Peirianneg (Cymorth Technegol ym maes Peirianneg)
chwe mis yn gynt na’r disgwyl oherwydd ei agwedd benderfynol a’i ymroddiad.
Mae’r dysgwr busnes, Sophie Williams, sy’n 24 oed ac yn dod o Hirwaun, wedi cyrraedd y rhestr
fer ar gyfer y wobr ‘Talent Yfory’ lle mae cyflogwyr yn enwebu prentis cyfredol sydd wedi cael
effaith gadarnhaol bendant ar berfformiad eu sefydliad. Yn wreiddiol, roedd Sophie am ddilyn
gyrfa mewn addysgu, ond newidiodd ei chynlluniau wedi i’w mam ddod yn rhiant maeth, a’i
hysbrydolodd i ddod yn weithiwr cymdeithasol cymwys.
Ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe gyda gradd yn y Ffrangeg a’r Sbaeneg, ymunodd Sophie â
Choleg y Cymoedd i gwblhau Prentisiaeth mewn gweinyddiaeth fusnes, gan weithio yng
ngwasanaeth maeth Cyngor Bwrdeistref Sirol Rhondda Cynon Taf. Mae hi wedi cael effaith
barhaol ar y tîm ac yn ddiweddar cafodd ei dyrchafu’n swyddog recriwtio rhanbarthol.
Un arall sydd wedi’i enwebu ar gyfer y wobr ‘Talent Yfory’ yw Connor Paskell, sy’n 21 oed ac yn
dod o Lantrisant. Mae Connor yn agosáu at ddiwedd prentisiaeth beirianneg tair blynedd gyda
Choleg y Cymoedd. Ymunodd â British Airways Avionic Engineering (BAAE) yn Llantrisant fel
Peiriannydd Afionig ar Brentisiaeth yn 2018, ac mae disgwyl iddo gwblhau ei brentisiaeth
ddiwedd mis Mai 2021.
Gyda rhestr o gymwysterau i’w enw, gan gynnwys Prentisiaeth mewn Peirianneg Drydanol, mae
Connor wedi parhau i ddatblygu ei sgiliau a’i wybodaeth dechnegol sydd wedi ei helpu i wella
effeithlonrwydd amrywiol arferion cynnal a chadw yn BAAE, gan arbed cannoedd o filoedd o
bunnoedd i’r busnes.
Ac, yn olaf ond nid yn lleiaf, mae Bethany Mason sy’n 21 oed ac yn dod o Lantrisant. Enwebwyd
Bethany ar gyfer y wobr ‘Prentis Sylfaen y Flwyddyn’. Ar hyn o bryd mae Bethany yn gweithio
tuag at NVQ Lefel 3 mewn Gweinyddiaeth Fusnes wrth weithio fel prentis yn Amlosgfa Glyn-taf.
Mae hi wedi bod yn gaffaeliad amhrisiadwy i’r tîm, gan addasu i nifer o heriau a helpu i wella
rhediad llyfn yr amlosgfa drwy ddigideiddio a chanoli cofnodion claddu a chynlluniau
mynwentydd. Hefyd, bu’n gyfrifol am gyflwyno porth digidol er mwyn cyrchu cerddoriaeth ar
gyfer gwasanaethau amlosgi teuluol, ynghyd â gweddarllediadau a theyrngedau gweledol, sydd
wedi bod yn bwysig ar gyfer angladdau a gynhaliwyd yn ystod cyfyngiadau’r pandemig, gan
helpu i ddod â chysur i bobl yn ystod y cyfnodau anoddaf.
Cynhelir Gwobrau Prentisiaethau Cymru 2021 yn rhithwir nos Iau 29 Ebrill 2021. Dymunwn bob
lwc i’n holl ddysgwyr sy’n cymryd rhan!
Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN
Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY
Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ
Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR