Dysgwyr Coleg y Cymoedd ar restr fer y gorau ym Mhrydain yn rowndiau terfynol WorldSkills

Yn dilyn llwyddiant ysgubol Coleg y Cymoedd yng ngwobrau WorldSkills UK 2022, mae tri o’u myfyrwyr dawnus wedi’u dewis i ymuno â’r garfan hir genedlaethol i baratoi ar gyfer rowndiau terfynol y byd.

Bydd rowndiau terfynol y ‘Gemau Olympaidd sgiliau’, a gaiff eu cynnal bob dwy flynedd, yn digwydd yn Lyon ym mis Medi 2024, a bydd pobl ifanc yn cystadlu am deitl pencampwr y byd mewn 27 o wahanol ddisgyblaethau mewn cystadleuaeth ffyrnig yn erbyn dros 80 o wledydd.

Mae cystadlaethau WorldSkills yn digwydd ar lefelau rhanbarthol, cenedlaethol a rhyngwladol, ac yn defnyddio arferion gorau rhyngwladol i godi safonau mewn prentisiaethau ac addysg dechnegol, fel bod rhagor o bobl ifanc a chyflogwyr yn llwyddo.

I ddysgwyr Coleg y Cymoedd, maen nhw’n gyfle iddyn nhw fireinio eu sgiliau yn eu dewis faes a chynyddu eu cyfleoedd i sicrhau swyddi yn y dyfodol.

Mae pob cam o’r gystadleuaeth yn cynnwys tasgau ymarferol a sefyllfaoedd sy’n cael eu beirniadu gan banel o arbenigwyr yn y diwydiant. Mae’r cyfranogwyr sy’n perfformio orau yn symud ymlaen i gam nesaf y gystadleuaeth.

Dewiswyd y garfan hir o 94 o aelodau o blith cannoedd o enillwyr rowndiau rhagbrofol cenedlaethol, ac ar ôl rhaglen hyfforddi ddwys dros 18 mis, bydd y cynrychiolwyr terfynol yn cael eu dewis yn ystod gwanwyn 2024.

Mae cystadleuwyr eisoes ran o’u ffordd drwy’r hyfforddiant sydd wedi’i ddylunio i’w paratoi ar gyfer pwysau cystadleuaeth ryngwladol. Hyd yn hyn, mae dysgwyr Coleg y Cymoedd wedi bod i wersylloedd hyfforddi gyda chefnogaeth partneriaid diwydiant fel Powerserv Ltd, ac Ysbrydoli Rhagoriaeth Sgiliau yng Nghymru. Ar benwythnos 25 Mawrth 2023, byddan nhw’n dechrau ar y cyntaf o bedwar o ddigwyddiadau bŵt-camp WorldSkills UK.

Tra byddan nhw yno, byddan nhw’n cael hyfforddiant gan bencampwyr y sector a chyn enillwyr i ddatblygu eu meddylfryd a’u sgiliau technegol yn y gobaith o gael eu dewis ar gyfer carfan derfynol Prydain yn eu priod feysydd.

Wrth siarad am gyflawniadau’r dysgwyr, meddai Matthew Watts, Cydlynydd Menter, Sgiliau a Chyflogadwyedd Coleg y Cymoedd: “Mae ein tri dysgwr eisoes wedi cyflawni cymaint yn eu harbenigedd, maen nhw’n glod i Goleg y Cymoedd ac rydyn ni’n hynod falch ohonyn nhw.

Rydyn ni’n gwneud popeth posib i’w hwyluso i gyflawni’r cam olaf yma, drwy gystadlu ar lefel elitaidd y cystadlaethau sgiliau. Mae’n daith heriol ond hefyd yn un gyffrous iawn gyda phrofiadau y byddan nhw’n eu cofio am weddill eu hoes.”

Mae’r cystadleuwyr wedi cael cefnogaeth gan eu tiwtoriaid cwrs a thîm Dyfodol y coleg: adran benodedig sy’n ymwneud â llwyddiant dysgwyr ar ôl iddyn nhw adael y coleg. Gallai hyn fod ar ffurf cyflogaeth, menter neu addysg uwch. Mae’r broses gystadlu wedi cynnwys cydlynu gwersylloedd hyfforddi, mentora a theithiau ledled gwledydd Prydain.

Dyma aelodau carfan hir WorldSkills UK o Goleg y Cymoedd:

Ruben Duggan

•             Tiwtor – Lee Parry, Adeiladu.

•             Gwobr – Aur yng nghystadleuaeth Plymio WorldSkills UK.

“Mae cystadlaethau WorldSkills wedi bod yn heriol ond maen nhw’n rhoi boddhad mawr. Dw i’n edrych ymlaen at y bŵt-camp: mae’n gyfle cyffrous iawn ac yn gyfle i wella fy sgiliau ymhellach.”

Cole Peters 

•             Tiwtor – Phil Gorman, Technoleg Gwybodaeth.

•             Gwobr – Aur yng nghystadleuaeth Gweinyddwr System Rhwydwaith – Technolegau Cyfathrebu WorldSkills UK.

“Yn ystod y cylch WorldSkills UK diwethaf, fe wnes i ddarganfod meysydd ro’n i’n teimlo y gallwn i eu gwella ymhellach. Dw i’n falch o fod wedi gweithio ar y rhain gyda fy nhiwtor, Phil Gorman, ac Uwch Swyddog Cymorth Technoleg Gwybodaeth y coleg, Darren Whitehead. Dw i’n ddiolchgar iawn am eu cefnogaeth wrth i fi ddechrau ar gam nesaf fy nhaith WorldSkills.”

Kaleb Szymanski

•             Tiwtoriaid – Stephen Manning a James Neal, Peirianneg.

•             Gwobr – Canmoliaeth Uchel yng nghystadleuaeth Cynnal a Chadw Awyrennau WorldSkills UK.

“Dw i wedi mwynhau’r hyfforddiant yn fawr hyd yn hyn. Mae wedi fy helpu i wella llawer – yn enwedig fy rheolaeth amser wrth gystadlu a deall y meini prawf marcio ar gyfer gwahanol dasgau. Mae wedi bod yn baratoad da ar gyfer y camau sydd i ddod.”

I ddysgu mwy am gystadlaethau WorldSkills, ewch i: WorldSkills UK | Raising Apprenticeships & Technical Education Standards

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau