Dysgwyr Coleg y Cymoedd yn cael profiad o fywyd myfyriwr yn Rhydychen

Mae grŵp o ddysgwyr ar y cwrs Harddwch yng Ngholeg y Cymoedd wedi bod yn casglu anrhegion Nadolig ar gyfer teuluoedd lle mae trais teuluol wedi tarfu ar eu bywydau.

Mae’r dysgwyr wedi bod yn cefnogi’r elusen ‘Don’t Look Back’, sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr trais ar yr aelwyd a’u teuluoedd, a hynny ers i sefydlydd yr elusen ddod yn gleient yn salon harddwch y coleg.

Fe wnaeth stori anhygoel Rachel Williams ysbrydoli dysgwyr y cwrs Lefel 3 Therapi Harddwch ar ôl clywed fel y bu iddi hi ddianc rhag trais yn y cartref a defnyddio’r profiad hwnnw i ddylanwadu’n bositif ar fywydau pobl eraill.

Ymhlith y llu o brosiectau mae’r elusen yn ymwneud â nhw y mae cefnogi teuluoedd mewn tai diogel, ymhell o afael sefyllfaoedd domestig anodd. Penderfynodd y dysgwyr wneud cyfnod yr ŵyl yn un arbennig i blant y llochesi hyn drwy brynu anrhegion Nadolig iddyn nhw.

Dywedodd Kelly Parker, 25 oed o Aberdâr: “Mae wedi bod yn ffantastig i fod yn rhan o waith ‘Don’t Look Back’. Ar ôl clywed yr hanesion dirdynnol am brofiadau rhai pobl, a’r hyn y gellir ei wneud i helpu, roedden ni i gyd yn awyddus i gymryd rhan. Mae’n hyfryd gwybod, wrth i mi fwynhau fy Nadolig, mod i wedi gwneud rhywbeth i helpu i wella Nadolig rhywun arall.”

Yn ôl eu tiwtor, Nicola Davies: “Rydw i’n hynod falch o’r dysgwyr; maen nhw wedi rhagori ar eu nod cyntaf, gyda’r nifer o anrhegion Nadolig a gyfrannwyd a’r meddwl oedd tu ôl i’r gweithredu.”

Dywedodd Rachel Williams sefydlydd ‘Don’t Look Back’: “Roeddwn i wedi fy syfrdanu a’m rhyfeddu gan haelioni’r myfyrwyr hyn. Roeddwn i yn fy nagrau pan gyrhaeddodd eu tiwtor, Nicola, gyda’r rhoddion. Diolch yn fawr iawn i chi gyd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau