Gwahoddwyd dau o ddysgwyr Coleg y Cymoedd o gampws newydd Aberdâr i ymuno â’r Prif Weinidog Mark Drakeford a’r Gweinidog Addysg Kirsty Williams mewn digwyddiad diweddar yng Nghaerdydd; i ddathlu llwyddiant cam cyntaf Rhaglen Ysgolion ac Addysg yr 21ain Ganrif.
Ymunodd Connor Vockins a Felix Eates â Mark Thomas – Cyfarwyddwr Campws / Cwricwlwm, campws Aberdâr yn Adeilad y Pierhead, Caerdydd lle’r oedd disgyblion a staff o ysgolion ledled Cymru wedi ymgasglu ar gyfer y dathliad.
Mae Connor ac Felix yn astudio Cyfrifiadura yn adeilad campws newydd Aberdâr a dderbyniodd arian o’r Rhaglen 21ain Ganrif. Mae campws o’r radd flaenaf yn cynnwys gweithdai a chyfleusterau ardderchog ar gyfer dysgwyr.
Wrth siarad yn y digwyddiad, tynnodd Mark Thomas sylw at fanteision y campws newydd, gyda’i leoliad newydd yng nghanol y dref i ddysgwyr, staff a’r gymuned ehangach.