Dysgwyr Coleg y Cymoedd yn cystadlu mewn dadl newid hinsawdd

Mae dysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd wedi bod yn chwarae eu rhan wrth fynd i’r afael â’r argyfwng hinsawdd, drwy ymuno â degau o bobl ifanc o bob rhan o Gymru i gymryd rhan mewn cynhadledd genedlaethol gyda’r nod o ystyried materion amgylcheddol byd-eang.

Bu chwe dysgwr o’r coleg yn cymryd ran yng nghynhadledd hinsawdd ‘MockCOP’ eleni, gan ymuno â dysgwyr o ysgolion a cholegau o bob rhan o’r wlad i fod yn rhan o’r achlysur Cymreig yn y Cynulliad Cenedlaethol yng Nghaerdydd.

Wedi ei drefnu ar y cyd gan Maint Cymru a Chanolfan Gymreig Materion Rhyngwladol (WCIA), mae MockCOP, sydd wedi’i fodelu ar sgyrsiau COP Newid Hinsawdd y Cenhedloedd Unedig, yn dod â phobl ifanc 14-18 oed ynghyd â gwyddonwyr, economegwyr ac arweinwyr busnes i drafod a dadlau ynghylch â materion newid hinsawdd.

Rhennir y dysgwyr yn dimau, pob un yn cynrychioli gwlad wahanol, o bob rhan o’r byd, y mae’n rhaid iddyn nhw ymchwilio iddyn nhw cyn cyflwyno’r heriau amgylcheddol y maen nhw’n eu hwynebu yn ogystal â’u hatebion arfaethedig i fynd i’r afael â rhain.

Roedd Liberty Lee, Meadow Jackson, Matthew MacPhail, Seth Olner, Taya Hodges a Lilia Simonov, sydd i gyd yn rhan o gymdeithas ddadlau Coleg y Cymoedd, yn mynychu’r digwyddiad ar ran Coleg y Cymoedd, gyda’r dysgwyr wedi’u rhannu’n ddau dîm yn cynrychioli Canada ac Ynysoedd y Pilipinas.

Yn debyg i’r gynhadledd COP go iawn, roedd yn rhaid i dimau gyflwyno cynigion a thrafod gyda gwledydd eraill i gyrraedd y nod yn y pen draw i’w cael i ymrwymo i’w haddewidion a llofnodi cytundeb.

Mae’r achlysur rhyngweithiol wedi’i gynllunio i wella gwybodaeth dysgwyr am y Cenhedloedd Unedig a’r trafodaethau blynyddol ar newid hinsawdd, yn ogystal â’u galluogi i ddatblygu gwell dealltwriaeth o genhedloedd a diwylliannau eraill, trwy weithredu fel y rheiny drwy’r amser.

Yn ôl Lilia Simonov, un o’r dysgwyr fu’n cymryd rhan: “Roedd digwyddiad MockCOP yn gyfle gwych i drafod y materion hinsawdd sy’n wynebu’r byd. Roedd hefyd yn gyfle i ddeall pa mor gydgysylltiedig ydy persbectif, statws economaidd-gymdeithasol a gwleidyddiaeth wrth ymdrin â materion newid yn yr hinsawdd. Yn enwedig wrth ystyried cysylltiadau â phethau fel anghydraddoldeb rhyw, a oedd yn ffocws mawr ac yn cael ei drafod yn helaeth.

“Roedd gan Goleg y Cymoedd ddau dîm yn y MockCOP, y naill yn cynrychioli Ynysoedd y Pilipinas a’r llall yn cynrychioli Canada. Fel un o gynrychiolwyr Ynysoedd y Pilipinas, cawsom gyfle i gynrychioli gwlad sy’n cael ei heffeithio’n fawr gan newid hinsawdd. Roedd gallu defnyddio ein lleisiau i fynegi’r pryderon hyn, a thrafod gwelliannau posibl gyda gwledydd eraill yn ystod y trafodaethau, yn wych. Roedd yn wir yn dangos sut roedd pawb yn y digwyddiad o’r un feddylfryd wrth sylweddoli bod hinsawdd yn broblem, a bod angen i’r Cenhedloedd Unedig fynd i’r afael â’r materion hyn fel blaenoriaeth. Yn gyffredinol, rhoddodd y digwyddiad gyfle i ni i gyd ddatblygu ein hyder a’n sgiliau siarad cyhoeddus, tra’n caniatáu i ni drafod pynciau gydag angerdd oedd yn arwydd o’r angen am newid.”

Dywedodd Holly Richards, Cydlynydd MAT yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae cystadleuaeth MockCOP yn cynnig cyfle gwych i bobl ifanc ddatblygu eu sgiliau dadlau ac i ddysgu mwy am faterion byd-eang pwysig. Mae’r gynhadledd yn annog pobl ifanc i ymwneud mwy â newid hinsawdd a materion gwleidyddol tra’n eu hysgogi i ystyried cyfrifoldeb Cymru, yn lleol ac yn fyd-eang.

“Roeddwn i’n hynod falch o’n dysgwyr a wnaeth waith anhygoel yn cynrychioli’r coleg. Roedden nhw’n dangos angerdd trawiadol dros y pwnc ac yn cyflwyno dadleuon cryf ac argyhoeddiadol a arweiniodd at sicrhau cefnogaeth i’w cynigion.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau