Dysgwyr Coleg y Cymoedd yn ffilmio cystadleuaeth menter genedlaethol

Gofynnwyd i ddau ddysgwr o Goleg y Cymoedd greu’r fideo swyddogol ar gyfer Syniad, y gystadleuaeth fenter ddigidol genedlaethol.

Cyflwynodd yr egin gynhyrchwyr ffilm eu fideo i Google Campws a Nat West a chwmnïau digidol megis Simply Do Ideas, Digichemistry a Yard Digital.

Ymgymerodd Harri Sutton ac Owen Price sydd, ar hyn o bryd, yn ddysgwyr ar gwrs Lefel 3 Cynhyrchu yn y Cyfryngau Creadigol (Teledu a Ffilm) ar gampws Nantgarw â’r prosiect fel profiad gwaith gwirfoddol.

Mae’r fideo 10 munud yn dangos digwyddiadau Syniad, cystadleuaeth ar gyfer myfyrwyr sy’n frwd dros bopeth digidol, wedi’i llunio i roi cyfle i bobl ifanc i ennill a datblygu sgiliau mentrau digidol ac entrepreneuraidd.

Ffilmiodd dysgwyr y cwrs creadigol y timoedd ar gamau cyntaf y gystadleuaeth, yn gweithio ar syniadau am fusnes digidol gyda chymorth Hyrwyddwyr Menter y Coleg a Simply Do Ideas a chreu cynllun busnes i’w gyflwyno i’r dewiswyr.

Yna aeth Harri ac Owen gyda’r timoedd llwyddiannus i’r ffeinal oedd yn digwydd dros dridiau lle bu cynrychiolwyr o Digichemistry yn eu helpu i ddylunio a chreu prototeipiau gan ddefnyddio meddalwedd Iconic View.

Uchafbwynt y ffilm ddogfen fer oedd ffilmio’r myfyrwyr entrepreneuraidd yn mynd â’u prototeipiau gorffenedig i Google Campus yn Llundain lle cyflwynon nhw eu syniadau i banel o arbenigwyr y diwydiant.

Meddai Harri Sutton, 17 oed o Bentre’r Eglwys: “Roedd yr holl brofiad yn anhygoel, roedden ni dan bwysau drwy’r amser wrth ffilmio’r holl gystadleuaeth a gwybod y byddai’n cael ei dangos i gymaint o fusnesau ond fe wnes i wir fwynhau. Mae staff Coleg y Cymoedd wedi bod mor gefnogol yn ein helpu i ddod o hyd i gyfleoedd profiad gwaith ym myd teledu a ffilm.”

Ychwanegodd Owen Price, 21 oed o Fedwas: “Roedd ffilmio cystadleuaeth Syniad yn brofiad gwych i ni weithio ar brîff go wir a chadw at amserlen mor dynn. Dw i mor falch mod i wedi cymryd rhan a bydd hyn yn wych ar fy CV ar ôl i mi orffen fy nghwrs ac yn chwilio am swydd yn y diwydiant.”

Dywedodd Craig Oats, sylfaenydd Digichemistry: “Rydw i mor ffodus i weithio mewn colegau rhyfeddol. Mae ansawdd y gwaith sydd yn cael ei wneud yng Ngholeg y Cymoedd wedi creu argraff fawr arna i ac mae Harri ac Owen wedi gweithio mor broffesiynol ac ron i’n teimlo eu bod yn rhan o’r tîm. ”

Prif enillydd Syniad 2016 oedd ‘The Hub’ o Goleg Gwent – ‘app’ cymdeithasol newydd sy’n cysylltu pobl â’i gilydd, yn seiliedig ar eu diddordebau, gyda’r nod o osod yr egwyddor ‘gymdeithasol’ yn ôl yn y cyfryngau cymdeithasol. Enillodd y tîm werh £500 o gyllid a phecyn cymorth i helpu i osod yr ‘app’ i fod ar gael drwy’r storfeydd dosbarthu ar lwyfan sawl dyfais. Yn ail daeth ‘Shoot’, tîm o Goleg Dewi Sant, gydag app i anfon lluniau, testun a gwefannau o ffôn y defnyddiwr i’w ddyfeisiadau eraill. Yn drydydd roedd myfyrwyr Coleg Caerdydd a’r Fro gyda’u gêm ‘Whizz to the Past’, wedi’i chynllunio i helpu plant ifanc ddysgu sgiliau mathemateg.

Gallwch edrych ar y fideo fan hyn: https://vimeo.com/156623725

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau