Bydd dros 80 o fyfyrwyr Coleg y Cymoedd o gyrsiau sy’n cynnwys Gofal Plant, Arlwyo a Thrin Gwallt yn cael profi ffordd newydd o ddysgu drwy ymuno â sefydliadau addysg a busnes ledled Ewrop eleni.
Daw’r cyfle diolch i raglen Erasmus+, rhaglen gyfnewid yr Undeb Ewropeaidd i gefnogi addysg, hyfforddiant, datblygiad chwaraeon a ieuenctid ymhlith myfyrwyr Ewrop.
Mae dysgwyr Coleg y Cymoedd wedi’u gwahodd i leoliadau ar draws yr Eidal, Sbaen a Phortiwgal i ddatblygu eu sgiliau, eu gwybodaeth a’u dealltwriaeth drwy gymryd rhan mewn lleoliadau gwaith tramor mewn partneriaethau â sefydliadau addysgol sy’n eu derbyn, gan brofi diwylliant a iaith gwlad wahanol ar yr un pryd. Penderfynwyd ar y lleoliadau gwaith yn ôl eu perthnasedd i gwricwlwm a datblygiad personol y myfyrwyr.
Ym mis Chwefror 2023, aeth Samantha James, athrawes Busnes, ar daith i’r Eidal gyda’i dysgwyr Lefel 3. Fe fuodd rhai o’i myfyrwyr yn rhannu eu huchafbwyntiau: “Fe ddysgais i wybodaeth ardderchog am sut mae busnesau’n cael eu rhedeg mewn gwlad arall a dysgu sgiliau newydd, gan allu rhoi’r hyn ddysgon ni ar waith,” meddai Elle Thomas.
Soniodd Dylan Thomas am y cyfleoedd sydd ar gael drwy astudio dramor: “Roedd y profiad yn wych, ac ychydig iawn o bobl fydd yn cael cyfle i gymryd rhan mewn pethau fel hyn. Fe lwyddais i i fynd mewn i fusnes mewn diwydiant cwbl newydd nad o’n i wedi meddwl amdano o’r blaen. Fe ges i fy synnu pa mor bwysig yw ochr fusnes pethau er mwyn rhedeg safle archaeolegol”.
Wrth siarad am daith ddiweddar i Ganolfan Hyfforddi Benfica FC, Lisbon, gydag Academi Pêl-droed Merched Coleg y Cymoedd, meddai’r Hyfforddwraig Kathryn Morgan: “Roedd yn ymweliad y bydd dysgwyr yn ei gofio gyda gwên ar eu hwynebau. O fanylder yr hyfforddi i’r profiad diwylliannol a’r croeso cynnes gawson ni, roedd yn daith lwyddiannus iawn.
Cafodd y dysgwyr weld sut brofiad fyddai hyfforddi a byw fel pêl-droediwr proffesiynol a’r gwaith caled a’r ymroddiad sydd eu hangen. Ac roedd bod ym Mhortiwgal a’r haul yn gwenu bob dydd yn siŵr o fod yn llesol i bobl. Doedd sawl un ddim eisiau dod adre!”
Soniodd Natalie Goodger, Cydlynydd Digwyddiadau a Materion Rhyngwladol Coleg y Cymoedd, am y manteision i’r Coleg o fod yn sefydliad Erasmus+: “Mae Erasmus+ wedi bod yn ffrwd ariannu hynod fuddiol i’r coleg dros y blynyddoedd, nid yn unig yn darparu cyfleoedd lleoliad gwaith unwaith mewn oes i ddysgwyr ond hefyd drwy ddarparu cyfleoedd Datblygiad Proffesiynol Parhaus i aelodau staff a chaniatáu i’n coleg ni gydweithio â sefydliadau Ewropeaidd eraill. Mae hyn yn ei dro yn cefnogi arloesedd, angerdd dros ddysgu ac yn ehangu dyheadau’r dyfodol.”
Mae rhaglenni symudedd rhyngwladol yn cael eu hargymell er mwyn gwella sgiliau cyfathrebu, iaith a rhyngddiwylliannol myfyrwyr, a’r sgiliau meddal mae cyflogwyr y dyfodol yn rhoi cymaint o werth arnynt.
I ddysgu rhagor am gyfleoedd i ddysgwyr yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i: www.cymoedd.ac.uk