Yn dilyn Mesur yr Iaith Gymraeg 2011 a phenodi Comnisiynydd Iaith, mae Coleg y Cymoedd wedi gwneud camau breision i sicrhau bod aelodau o’r staff a’r dysgwyr yn cael eu hysgogi i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg.
Caiff y dysgwyr eu cymell i gymryd rhan mewn gweithgareddau allgyrsiol addysgiadol a chymdeithasol fydd yn datblygu eu sgiliau drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg, yn gymdeithasol yn ogystal ag yn yr ystafell ddosbarth.
Mae’n wir i ddweud nad oes lle gwell i ddysgu hynny na Gwersyll yr Urdd, Llangrannog a phan ddaeth cyfle drwy’r Fenter Iaith gwnaeth chwech o ddysgwyr y Coleg gais i fynychu cwrs awyr agored yn y gwersyll.
I sicrhau eu lle, roedd rhaid i’r dysgwyr roi rhesymau pam y dylid eu dewis hwy i fynychu a’r manteision fyddai’n dod iddyn nhw yn sgil yr ymweliad. Mae’r rhai fu’n llwyddiannus, pob un yn aelodau o Fforwm Dysgwyr Coleg y Cymoedd ac yn hyrwyddwyr brwd o’r iaith Gymraeg, yn cymryd rhan yn rheolaidd yn y gweithgareddau sy’n cael eu trefnu gan y fforwm, gan gynnwys Bowlio Deg, digwyddiadau elusennol a theithiau i fannau o ddiddordeb e.e. Sain Ffagan.
Yn ystod eu cyfnod yn Llangrannog bu’r dysgwyr yn cymryd rhan yn y gweithgareddau awyr agored, gêmau adeiladu tîm a fforymau rhannu syniadau ymhlith dysgwyr.
Gwnaeth Chloe Griffiths, (19) o Gaerffili gais a chael ei derbyn ar y cwrs. Meddai hi: “Mi wnes i hoffi cwrdd â phobl newydd a chymryd rhan mewn gweithgareddau. Gawson ni lawer o hwyl a ches i brofiad da. Mi wnes i fwynhau siarad Cymraeg tu fas i’r coleg gyda ffrindiau newydd.
Yn ôl Jamie Bevan, Hyrwyddwr Dwyieithrwydd yng Ngholeg y Cymoedd,“Mae wedi bod yn bleser i’r Coleg gael gweithio mewn partneriaeth â Menter Iaith Rhondda Cynon Taf er mwyn cynnig y cyfle gwych hwn i’n dysgwyr. Mae’r Coleg wedi ymroi i gynyddu’r cyfleoedd sydd ar gael i bobl ifanc barhau i ddefnyddio eu sgiliau Cymraeg tu fas i’r ystafell ddosbarth. Rydyn ni’n credu fod gweithgareddau fel yr ymweliad â Llangrannog yn tanlinellu perthnasedd yr iaith Gymraeg, nid yn unig mewn cyd-destun ffurfiol ond mewn cyd-destun cymdeithasol hefyd. Bydd y sgiliau fydd y dysgwyr wedi eu caffael dros y penwythnos yn cael eu rhoi ar waith yn y coleg wrth gymell y boblogaeth ehangach o ddysgwyr i wneud defnydd o’u sgiliau Cymraeg ac i barhau i ddefnyddio’r iaith.”
Ar Ebrill 16, bydd Coleg y Cymoedd yn cynnal ei ddiwrnod cynghori. Bydd y Diwrnod Cynghori yn parhau o 4.00 y pnawn hyd 7 yr hwyr ac yn gyfle i ddarpar ddysgwyr a’u teuluoedd i fynd o gwmpas cyfleusterau’r coleg a dysgu rhagor am y cyrsiau sydd ar gael.
“