Dysgwyr coleg yn barod ar gyfer gyrfaoedd mwyaf blaenllaw’r byd

Bydd dysgwyr o bob rhan o gymoedd de Cymru yn cael y cyfle i gael gyrfa yn gweithio gyda thechnoleg fwyaf datblygedig y byd, wrth i Goleg y Cymoedd lansio rhaglen sy’n ceisio rhoi hwb i gyflogaeth yn y rhanbarth.

Mae’r coleg wedi ymuno â Phrifysgol De Cymru a chwmnïau technoleg blaenllaw i greu cynllun i roi’r sgiliau arloesol i ddysgwyr sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd yn niwydiant lled-ddargludyddion Cymru – diwydiant y rhagwelir y bydd yn creu 5,000 o swyddi uwch-dechnoleg yng Nghymru erbyn 2025.

Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd yn hanfodol ar gyfer y rhan fwyaf o’r technolegau electronig yr ydym i gyd yn eu defnyddio bob dydd, gan gynnwys ein ffonau, cyfrifiaduron, dyfeisiau clyfar a’r rhyngrwyd ei hun. Bydd y dechnoleg hon yn caniatáu llwybr tuag at gysylltiadau rhyngrwyd 5G eang, cerbydau awtonomaidd a bron pob datblygiad electronig newydd. Ac, mae Cymru yn arwain y ffordd.

Mae De Cymru eisoes yn gartref i gwmnïau sy’n arwain y byd wrth ymchwilio, dylunio a chreu technoleg lled-ddargludyddion cyfansawdd. Bydd twf disgwyliedig y diwydiant hwnnw yn cynnig cyfleoedd cyflogaeth enfawr i ddysgwyr yn y rhanbarth.

Dros y 12 mis diwethaf, mae Coleg y Cymoedd wedi gweithio gydag adrannau ymchwil prifysgolion a busnesau technoleg i feithrin dealltwriaeth uniongyrchol o’r sgiliau y bydd eu hangen arnynt ar gyfer eu gweithluoedd yn y dyfodol.

Yn sgil y prosiect mae staff yng Ngholeg y Cymoedd wedi mynychu nifer o gyrsiau a gynhelir gan gwmnïau mwyaf blaenllaw’r sector, gan gynnwys IQE o Gasnewydd, un o brif gyflenwyr lled-ddargludyddion cyfansawdd byd-eang. Hefyd, mae tiwtoriaid wedi cael y cyfle i ddysgu gan yr arbenigwyr yn Newport Wafer Fab, MicroSemi, y Catapwlt Rhaglenni Lled-ddargludyddion Cyfansawdd ac arbenigwyr addysg wyddoniaeth Techniquest.
Mae mwyafrif y sefydliadau sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn aelodau o glwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd cyntaf y byd, CSConnected, a sefydlwyd yma yn 2017 fel modd o danio’r diwydiant yng Nghymru. Gan weithio yn y clwstwr, mae prifysgolion, canolfannau ymchwil a chwmnïau yn cydweithio i ddatblygu canolfan ar gyfer lled-ddargludyddion cyfansawdd sy’n anelu at greu buddsoddiad o £375 miliwn yn y sector preifat yn y rhanbarth dros y pum mlynedd nesaf.

Bydd yr hyfforddiant hwn a dderbynnir gan diwtoriaid Coleg y Cymoedd yn caniatáu i’r coleg deilwra ei gyrsiau Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg, Celf a Mathemateg (STEAM) i sicrhau bod y genhedlaeth nesaf o ddysgwyr yn meithrin yr union sgiliau y bydd cyflogwyr yn galw amdanynt.

O ganlyniad, bydd dysgwyr coleg ar y blaen wrth iddynt ddilyn llwybrau gyrfa broffidiol mewn sectorau technoleg newydd sy’n cynnig rolau sy’n talu’n dda ac y mae galw mawr amdanynt ym maes peirianneg a gwyddoniaeth.

Arweinir rhaglen Coleg y Cymoedd gan y darlithydd Ffiseg a Gwyddoniaeth Gymhwysol, Steve Chapman, a ddywedodd: “Mae lled-ddargludyddion cyfansawdd eisoes yn hanfodol i’r dechnoleg yr ydym i gyd yn ei defnyddio heddiw ac mae hynny ond yn mynd i dyfu. Mae’n hanfodol ein bod yn gweithio gyda’r diwydiant i sicrhau ein bod yn parhau i fod ar flaen y gad o ran datblygiadau technolegol o’r fath. Fel tiwtor mae wedi bod mor ddiddorol dysgu am y diwydiannau sydd ar flaen y gad ym maes gwyddoniaeth a throsglwyddo’r wybodaeth werthfawr hon i’n dysgwyr.“

Trwy weithio gyda’r arbenigwyr a’r cyflogwyr blaenllaw hyn, gallwn sicrhau bod ein cyrsiau’n caniatáu i ddysgwyr ddatblygu’r sgiliau diwydiant penodol a throsglwyddadwy y bydd eu hangen arnynt i sicrhau llwybrau gyrfa go iawn a gwerth chweil.”

Bydd diwygiadau i’r cwrs hefyd o fudd i’r rhai sy’n dewis llwybr prentisiaeth, gan y bydd dysgwyr yn gallu astudio modiwlau penodol sy’n clymu i mewn i’r diwydiant, gan wella eu siawns o ddod o hyd i brentisiaethau a gweithio yn y farchnad lled-ddargludyddion a pheirianneg pan fyddant yn gadael y coleg.

Dywedodd Karen Phillips, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Fel coleg, rydym yn defnyddio ein perthnasoedd â chyflogwyr i gadw i fyny â diwydiannau sy’n datblygu a chyfleoedd cyflogaeth i’n dysgwyr yn y dyfodol. Rydym yn sicrhau bod gan ein tiwtoriaid y wybodaeth berthnasol, gan drosglwyddo’r arbenigedd hwn i’n cyrsiau fel bod gan ein dysgwyr y sgiliau y mae cyflogwyr yn edrych amdanynt heddiw, ac yn y dyfodol.“

Mae’r prosiect hwn wedi bod yn hynod fuddiol i’n tiwtoriaid a’n dysgwyr ac rydym yn gobeithio parhau i weithio ar y fenter hon yn y dyfodol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau