Dysgwyr coleg yn troedio’r diwydiant cerddoriaeth

Bydd dysgwyr Coleg y Cymoedd yn dilyn ôl troed cerddorion byd-enwog.

Bydd gan ddysgwyr Cerddoriaeth yng Ngholeg y Cymoedd y cyfle i astudio cwrs Lefel 2 newydd Mynediad at Gerddoriaeth – Rock School” a fydd yn cael ei gynnal yng Nghampws Nantgarw, gan ddechrau’n hwyrach y mis hwn.

Y coleg yw’r coleg cyntaf yng Nghymru i gynnal y Diploma Atodol Lefel 2 i Ymarferwr, o bortffolio sy’n seiliedig ar y diwydiant cerddoriaeth, sydd wedi cynhyrchu rhai o enwau mwyaf y siartiau gan gynnwys Ed Sheeran, Rita Ora and Jess Glynne.

Yn wreiddiol, cafodd y Cwricwlwm Mynediad at Gerddoriaeth ei redeg gan y Brit School sydd hefyd yn cynnwys y Rock School: Diploma Atodol Lefel 3 ar gyfer Ymarferwyr Cerddoriaeth. Bydd y coleg yn ei gynnal ar gampws y Rhondda. Bydd hyn yn caniatáu i ddysgwyr symud ymlaen o Lefel 2 – un cam yn agosach at yrfa eu breuddwydion.

Bydd y cyrsiau’n cael eu cyflwyno gan dîm cerdd arbenigol Coleg y Cymoedd, Scott Howells, Rory Meredith a Chris Summerill, sydd â blynyddoedd o brofiad yn y diwydiant cerddoriaeth ac sydd yn dal i gyfansoddi, recordio a pherfformio; y tu allan i’r coleg.

Wrth i’r adran Gerddoriaeth ddatgelu’r cyfle cyffrous hwn dywedodd Scott Howells, Tiwtor Cerddoriaeth yng Ngholeg y Cymoedd “Byddwn yn cynnig y cyfle i ddysgwyr gael profiad o bob agwedd o’r diwydiant cerddoriaeth o’r ochr beirianneg a recordio yn ein stiwdios recordio o’r radd flaenaf i gydweithio â thalent gerddorol newydd o Gymru wrth drefnu a chynnal gŵyl gerddoriaeth Valleys Soundfest. Byddwn hefyd yn defnyddio ein cysylltiadau yn y diwydiant cerddoriaeth i roi profiad byw i’r dysgwyr”.

Mae’r cwrs yn dechrau ddydd Llun 12 Medi 2016 felly gofynnir i unrhyw ddysgwyr sydd â diddordeb i wneud cais yn awr gan y bydd nifer cyfyngedig o leoedd.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau