Dysgwyr creadigol arswydus o dalentog

Mae atyniad Calan Gaeaf Cymreig wedi datblygu’n fwy brawychus, diolch i’r ‘props’ a ddarparwyd gan ddysgwyr talentog y cwrs Celf a Dylunio.

Defnyddiodd egin artistiaid a dylunwyr o Goleg y Cymoedd eu sgiliau i greu celfi realistig i godi ofn gan gynnwys breichiau a choesau a pherfedd i greu ‘FearFest’, y profiad Calan Gaeaf eithaf yng Nghas-Gwent.

Ymunodd dysgwyr Cwrs Lefel 3 Celf a Dylunio â’r rhai sydd ar gwrs lefel prifysgol y coleg, sef lefel HND yn y Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol, i greu ‘props’ tebyg i wallgofiaid mwtant a’r marw byw er mwyn bywiogi’r ‘Fearfest’.

Mae ‘FearFest’ yn brofiad sy’n codi braw ar ymwelwyr ac yn un rhyngweithiol sy’n cynnwys actorion byw ac effeithiau arbennig sy’n yn arswydo a dychryn pobl yn ei barthau niferus , gan geisio codi gwallt eich pen, a’r hyn oll wedi’i leoli ger chwarel sydd wedi ei thrawsnewid.

Fel rhan o’r broses o weithio gyda’r digwyddiad hunllefus hwn cafodd y dysgwyr hefyd gyfle i weithio gyda chwmni wedi’i leoli yn Stiwdios Pinewood yn Llundain sy’n gweithio gyda chwmnïau cynhyrchu ar ffilmiau poblogaidd Hollywood a’r cwmni hwn ddarparodd y setiau ar gyfer ‘Fearfest.

Dywedodd Nicole Garner 17 oed o Gaerffili sy’n astudio dylunio 3D: “Roedd yn wych i fod yn rhan o’r prosiect byw hwn yn y diwydiant. Mae’r broses wedi rhoi profiad go wir i mi o weithio yn y diwydiannau creadigol; roedd rhaid i ni weithio fel rhan o dîm a chwrdd â dedleins go wir.”

“Roedd y brîff i greu ‘props’ uchel eu safon ar gyfer digwyddiad byw rhyngweithiol, a gweithio gyda chwmni o stiwdios Pinewood sy’n cynhyrchu setiau, yn fy nychryn, ond fe wnes i fwynhau bob munud o’r profiad ac mae wedi fy ngwneud yn fwy penderfynol fyth mod i am yrfa yn y maes hwn.”

Roedd y ‘props’ yn cynnwys breichiau a choesau a cherrig beddau yn dod â gwahanol elfennau o brofiad Fearfest yn fyw, yn cynnwys y fynwent ffiaidd, y plasty afiach ac ynys y doliau.

Dywedodd Alistair Aston, tiwtor yng Ngholeg y Cymoedd: “Bu gweithio gyda Fearfest yn y Ganolfan Genedlaethol Deifio a Gweithgareddau yng Nghas-Gwent yn brofiad gwirioneddol gadarnhaol i’n dysgwyr, gan roi cyfle iddyn nhw ddod i ddeall yr hyn ydy gweithio ar brosiect go wir ym maes y diwydiannau creadigol.”

“Maen nhw wedi gweithio gydag egni a brwdfrydedd gan greu ‘props’ Calan Gaeaf o safon uchel oedd yn rhan o’r digwyddiad. Bu gweithio gyda chwmnïau nodedig y diwydiant ar frîff byw yn fodd o arddangos y talent sy’n cael ei ddatblygu yng Ngholeg y Cymoedd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau