Teithiodd grŵp o ddysgwyr Coleg y Cymoedd i Fangor yn ddiweddar i gystadlu yn erbyn dros 100 o ddysgwyr yng nghategori Creadigol a Chyfryngau Cystadleuaeth Sgiliau Cymru. Mae’r categori hwn yn cynnwys Ffotograffiaeth, Cerddoriaeth Fyw a Fideo Digidol, un o dros 55 o rwydweithiau’r gystadleuaeth.
Rhoes y gystadleuaeth, a gynhaliwyd yng Nghanolfan Celfyddydau ac Arloesi Pontio, Bangor gyfle i ddysgwyr y Cymoedd arddangos eu doniau o flaen dysgwyr o golegau ledled Cymru.
Eleni, am y tro cyntaf, teithiodd dau ddysgwr o’r Ganolfan Safon Uwch gyda’r tîm. Mae Elliot Morris a Tahlia Morgan-Rose yn astudio Ffotograffiaeth U2 fel rhan o’u rhaglen Safon Uwch yng nghampws Nantgarw.
Â
Enillodd Elliot y Tlws Arian, canlyniad gwych gan guro 23 arall o golegau ledled Cymru. Wrth glywed y canlyniad, dywedodd Elliot, “Mwynheais yr holl brofiad, rwyf yn angerddol am fy ffotograffiaeth ac mae ennill y wobr hon wedi rhoi hwb i’m hyder”. Wrth sôn am ei phrofiad yn y gystadleuaeth, dywedodd Tahlia “Mwynheais gymryd rhan yn y gystadleuaeth; Roeddwn yn falch iawn fod fy athro’n meddwl bod fy ngwaith yn ddigon da i’w gyflwyno “.
Â
Wrth barhau â llwyddiant y coleg, enillodd dysgwyr Cyfryngau Coleg y Cymoedd y brif wobr yn y gystadleuaeth cynhyrchu fideo digidol am eu ffilm A Red Documentary, y drydedd wobr yn olynol i Goleg y Cymoedd. Enillodd y dysgwyr Cerddoriaeth y gystadleuaeth Cerddoriaeth boblogaidd, ar ôl perfformiad anhygoel gan eu band Hertz.
Â
“