Mae dysgwyr Cymoedd wedi bod yn ysbrydoledig wrth ddarparu gwybodaeth am gyrsiau addysg bellach i ddisgyblion o ysgolion ar draws Caerffili a Rhondda Cynon Taf.
Cynhaliodd grŵp o ddysgwyr Arlwyo Lefel Mynediad 3 o gampws Ystrad Mynach arddangosiadau Arlwyo drwy gydol y dydd. Roedd arogl eu hamrywiadau ar couscous yn sicr wedi atynnu tyrfa, gan roi cyfle i’r dysgwyr a’u Tiwtor Cwrs Gary Humphries sgwrsio gyda’r disgyblion – yn gynnig cyngor ar gynnwys y cyrsiau a chyfleoedd sydd ar gael yn y Coleg.
Roedd dysgwyr Trin Gwallt Lefel 1 o gampws Aberdâr y Cymoedd a’r tiwtoriaid Karen Fenn a Pam Wilson hefyd yn brysur drwy gydol y digwyddiad wrth i’w sgiliau gael eu profi, yn cynnig amrywiaeth o steiliau gwallt gan gynnwys plethau Ffrengig, tonnau a chyrlau.
Dywedodd y cynghorydd gyrfaoedd a threfnydd y digwyddiad, Jayne Tilley, Rwyf wedi derbyn llawer o sylwadau cadarnhaol gan y staff a’r disgyblion a fynychodd y digwyddiad. Gwerthfawrogwyd y gweithgareddau a ddarparwyd gan ddysgwyr Coleg y Cymoedd a’u rhyngweithio â’r disgyblion.
Lluniau: Dawn Bowden A.C. Merthyr gyda dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo, campws Ystrad Mynach / dysgwyr Trin Gwallt, campws Aberdâr.
“