Dysgwyr ddim yn colli allan wrth i’r Coleg ystyried mesurau i dorri costau

Mae Coleg y Cymoedd wedi ymrwymo i roi blaenoriaeth i’w ddysgwyr wrth ystyried strategaeth newydd ar gyfer gwneud toriadau difrifol i gyllid y sector.

Mae’r coleg wedi cytuno i ryddhau 41 aelod o staff llawn amser ar sail diswyddiad gwirfoddol wrth geisio ymdopi â’r toriadau enfawr i’r cyllid sy’n wynebu’r sector addysg bellach yng Nghymru ac arbed tua £1.3 miliwn y flwyddyn i’r coleg.

Cytunodd y coleg ar broses diswyddo gwirfoddol gyda staff ym mis Ionawr 2015 yn dilyn cyhoeddiad Llywodaeth Cymru eu bod yn gostwng cyllidebau colegau addysg bellach o £29.9miliwn ar draws y sector.

Mae Coleg y Cymoedd, sydd â phum campws sef Aberdâr, Nantgarw, Rhondda, Rhymni ac Ystrad Mynach, yn gwasanaethu 20,000 o ddysgwyr o’r Cymoedd a’r ardaloedd cyfagos ac yn cyflogi tua 1,000 o staff.

Dywedodd Judith Evans, Pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydyn ni’n gweithio’n galed i sicrhau na fydd effaith y toriadau hyn yn effeithio ond cyn lleied â phosib ar ein dysgwyr. Drwy gytuno ar broses diswyddo gwirfoddol rydyn ni’n gallu gwneud rhyw gyfraniad i ddelio ag unrhyw ddiffygion o ganlyniad i’r toriadau hyn a byddwn yn gwneud ein gorau glas i ostwng costau drwy fesurau gwirfoddol. Rydyn ni hefyd yn ailagor y broses ddiswyddo gwirfoddol unwaith eto i sicrhau ein bod wedi manteisio i’r eithaf ar y potensial o arbed arian.

“Byddwn yn parhau gyda’n hymrwymiad i ddysgwyr cyfredol a darpar ddysgwyr drwy addo y bydd ein rhaglen fuddsoddiad, sy’n cynnwys darpariaeth heb ei hail ar gyfer trin cerbydau modur ar gampws Ystrad Mynach, canolfan rhagoriaeth gwaith rheilffyrdd yn Nantgarw a champws newydd canol tref Aberdâr, wyn mynd yn eu blaen er mwyn darparu’r amgylchedd gorau iddyn nhw lwyddo.”

Mae’r coleg wedi ymwrthod â rhyddhau 11 aelod o’r staff drwy’r broses ddiswyddo gwirfoddol ar y sail bod angen arbenigedd a phrofiad y cyfryw unigolion er mwyn parhau i gyflenwi’r cwricwlwm a’r gwasanaethau cymorth i ddysgwyr. Mae hefyd wyth cais yn cael eu dal yn ôl tra byddwn yn ystyried a ellir llenwi’r swyddi hyn gan staff o rywle arall yn y coleg.

Yn yr un modd â darparwyr addysg bellach eraill ar draws Cymru, mae cyllid Coleg y Cymoedd wedi’i dorri o 50% ar gyfer ei gyrsiau rhan amser. O ganlyniad, bydd gostyngiad yn nifer y cyrsiau rhan amser fydd yn cael eu cynnig o fis Medi 2015 ond mae’r Coleg wedi ymrwymo i sicrhau bod y dysgwyr presennol yn gallu parhau â’u hastudiaethau.

Mae Judith Evans yn ychwanegu: “Mae gennym dîm ymroddedig a thalentog iawn o staff academaidd a chymorth yng Ngholeg y Cymoedd ac rydyn ni’n gwneud ein gorau i sicrhau eu bod yn teimlo bod ganddyn nhw gefnogaeth a thawelwch meddwl yn ystod y cyfnod hwn o newid er mwyn iddyn nhw allu parhau i ysbrydoli ac annog ein dysgwyr.

“Mae’r gostyngiad yn y cyllid ar gyfer ein cyrsiau rhan amser yn ergyd i ni ond byddwn yn sicrhau y byddwn yn rhoi blaenoriaeth i’r cyrsiau hynny sy’n cael effaith go iawn ar yr economi a chanlyniadau positif mewn ardal lle mae ei wir angen. Ein gobaith hefyd ydy gallwn sicrhau cyllid Ewropeaidd i helpu gynyddu ein darpariaeth o gyrsiau rhan amser yn y dyfodol.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau