Dysgwyr galwedigaethol ar lwybr llwyddiant

Mae Coleg y Cymoedd yn dathlu llwyddiant y dysgwyr hynny sydd wedi cyflawni amrywiaeth eang o gymwysterau galwedigaethol wrth iddyn nhw symud ymlaen i brifysgol neu i gyflogaeth.

Mae’r coleg yn cynnig y dewis ehangaf o gyrsiau galwedigaethol yng Nghaerffili a Rhondda Cynon Taf ar draws ei bedwar campws ac mae’n dathlu’r niferoedd anferth o ddysgwyr sydd wedi sicrhau’r graddau uchaf a chyrraedd prifysgol neu’n mynd i gyflogaeth.

Ymhlith y canlyniadau nodedig mae rhai Bethan Walker, 19 oed o’r Coed Duon, a gyflawnodd Ragoriaeth Driphlyg* Diploma Estynedig BTEC mewn Chwaraeon ac wedi sicrhau lle ym Mhrifysgol Metropolitan Caerdydd i astudio am radd mewn Cyflyru’r Corff ar gyfer Chwaraeon, Adferiad a Thylino’r Corff. Enillodd Bethan hefyd Ysgoloriaeth Chwaraeon i Is-raddedigion sy’n rhagori ym maes Chwaraeon.

Dywedodd Bethan “Dw i wrth fy modd gyda fy nghanlyniadau. Rhoddodd y Coleg y rhyddid oedd ei angen arna i ond hefyd llawer o gymorth a chyfleoedd i fy helpu i gyflawni fy nod o gyrraedd prifysgol. Roedd fy nhiwtoriaid yn gefnogol iawn drwy gydol y cwrs, yn enwedig ar ôl i mi gael anaf i fy ngwddf. Hebddyn nhw, fasai’r holl beth ddim wedi bod yn bosibl!”

Cyflawnodd Alicia Quarterly (19) o Ystrad Mynach Ragoriaeth Driphlyg* yng nghwrs Diploma estynedig Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol a bydd yn mynd ymlaen i Brifysgol Caerdydd i hyfforddi i fod yn Nyrs.

Dywedodd Alicia: “Ar ôl methu fy UG, wnes i erioed feddwl y baswn i’n llwyddo i fynd i brifysgol i wneud gradd a gwireddu fy mreuddwyd o fod yn nyrs. Fodd bynnag, mae Coleg y Cymoedd wedi rhoi cyfle i mi wneud hyn. Mae’n rhoi cymaint o foddhad i mi mod i wedi cwblhau cwrs Lefel 3 BTEC mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol gyda gradd gyffredinol o D*D*D. Derbyniais gymaint o gefnogaeth a help gan fy nhiwtoriaid drwy gydol y cwrs!”

Bydd Rhiannon Brawn, 18 oed o Risca, hefyd yn symud ymlaen i Brifysgol Caerdydd i astudio Marchnata ar ôl cyflawni Rhagoriaeth Driphlyg* yn Niploma Estynedig Cenedlaethol Lefel 3 BTEC mewn Busnes a derbyn cynigion gan bob un o’u dewisiadau UCAS.

Dywedodd Rhiannon; “Dw i wrth fy modd gyda’r canlyniadau, dwi’n hynod o ddiolchgar am y cymorth a’r gefnogaeth a ges i gan fy nhiwtoriaid i mi ennill y graddau ron i eisiau. Mae fy hyder a fy hunan-gred wedi cynyddu’n enfawr oherwydd y cwrs hwn a hyn wnaeth i mi wneud cais am le yn y brifysgol a chario ymlaen i astudio yn fy newis faes. Ar ddechrau’r cwrs doeddwn i ddim hyd yn oed yn ystyried mynd i brifysgol ond drwy gymorth ac anogaeth fy nhiwtoriaid, ces fy nerbyn yn fy newis cyntaf o brifysgol. Fyddai hyn ddim wedi bod yn bosibl heb fod y tiwtoriaid wedi bod yn barod i fy nerbyn ar y cwr,s er gwaethaf cyfyngiadau a sialensiau corfforol. Dw i’n hynod falch o ddweud mod i wedi bod yn rhan o Goleg y Cymoedd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau