Mynychodd tri o ddysgwyr o gampws Rhondda Coleg y Cymoedd Seremoni Wobrwyo Flynyddol Gymunedol a Gwasanaethau Plant Rhondda Cynon Taf.
Ymunodd y dysgwyr â staff y maes gwasanaeth yn cynnwys gweithwyr gofal cartref, gweithwyr cymdeithasol, staff cartrefi gofal a chanolfannau dydd, rheolwyr cymorth busnes, gweithwyr cymorth i’r rhai ag anabledd dysgu, gweithwyr arbenigol gofal maes dementia a Gofalwyr Maeth oedd yn derbyn ystod o gymwysterau ac achrediadau i sicrhau eu bod yn meddu ar y sgiliau a’r wybodaeth sydd eu hangen.
Derbyniodd Ben Vickery, Jasmine Barclay a Carys Dawe oedd yn astudio ar y cwrs Llwybrau i Faes Gofal eu tystysgrifau am gyflawni Diploma Lefel 2 QCA mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae’r achlysur yn adeilad Tŷ Dysgu yn cydnabod yr ymrwymiad a’r gwaith caled y mae’r gwobrau hyn wedi’i olygu i sicrhau bod y dysgwyr yn cyflawni’r sgiliau a’r wybodaeth angenrheidiol ar gyfer cyflogaeth yn sector Gofal.
Y siaradwyr gwadd oedd Gerry Evans o Gyngor Gofal Cymru a swyddogion arbenigol o’r Cyngor, gan gynnwys Chris Harris o Ganolfan Aml-Asiantaeth newydd Diogelu (Mash), Carol Smith o’r Tîm Diogelu Oedolion a Mark Anthony, o’r Tîm Cymorth Teulu.
Bu’r Cynghorydd Mike Forey, Aelod Cabinet Cyngor Rhondda Cynon Taf dros Iechyd a Gwasanaethau Oedolion a’r Hyrwyddwr Pobl Hŷn yn cynorthwyo gyda’r cyflwyno ynghyd â Maer Rhondda Cynon Taf, y Cynghorydd Barry Stephens a’r Faeres, Barbara Stephens.
Dywedodd y Cynghordd Forey: “Mae achlysuron fel hyn yn bwysig i ddangos graddfa’r dysgu a’r datblygiad proffesiynol sy’n digwydd ar draws y gweithlu i amddiffyn a gofalu am ein hoedolion, ein plant a’n pobl ifanc fwyaf agored i niwed.
“Dylai’r ffaith fod y staff sy’n cyflenwi cymorth wedi ymroi i ragoriaeth bersonol a phroffesiynol dawelu meddwl trigolion, waeth beth fo’u hoed neu eu hamgylchiadau personolâ€.
Dywedodd Rachel Treharne Howells, Tiwtor y Cwrs a fynychodd yr achlysur: â€Mae’r cwrs Llwybrau i Ofal yn boblogaidd iawn yn y coleg, yn darparu profiad ymarferol gwerthfawr. Mae’n gwrs sydd yn un ymdrechgar iawn; yn dilyn eu hyfforddiant sefydlu mae’r dysgwyr yn treulio tri diwrnod yn astudio yn y coleg a thri diwrnod ar leoliad o fewn Rhondda Cynon Taf; lle caiff eu cynnydd ei fonitro gan Bridget Morgan, asesydd y coleg.
“Rydyn ni wedi cael llwyddiant mawr gyda’r cwrs hwn – enillodd cyn-ddysgwr Wobr Gofalwr y Flwyddyn yng nghystadleuaeth WorldSkills Cymru Gyfan ac mae mwyafrif o’r cyn-ddysgwyr wedi llwyddo i gael swyddi yn y Sector Gofalâ€.