Mae dau grŵp o ddysgwyr Gofal Plant wedi bod yn rhan o raglen Llythrennedd Corfforol Llywodraeth Cymru. Mae Llythrennedd Corfforol Cymru yn hyrwyddo dysgu trwy symud a bod yn llythrennog yn gorfforol; gan ddefnyddio ymarfer corff fel ffordd o ddysgu.
Mae tiwtoriaid Coleg y Cymoedd, Sharon Reed ac Ann Parker, sy’n addysgu Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 a Gwaith Chwarae Lefel 3 yng nghampws Ystrad Mynach, wedi bod yn rhan o’r cynllun peilot sy’n cynnwys deg coleg.
Roedd Sharon ac Ann yn awyddus i fod yn rhan o’r cynllun peilot gan eu bod wedi bod â diddordeb erioed mewn byw’n iach a bod yn gorfforol egnïol. Dywedodd Ann Mae corff iach yn arwain at feddwl iach ac i’r gwrthwyneb. Mae Llythrennedd Corfforol yn caniatáu i ddysgwyr feddwl yn gadarnhaol am ddysgu am ymarfer corff a gobeithio y bydd hynny’n datblygu’n ddiddordeb mewn chwaraeon. Roeddwn am i’r dysgwyr ddatblygu agwedd o ‘roi cynnig arni’ a fydd yn rhoi hyder iddynt roi cynnig ar bethau newydd – mae’n adeiladu gwydnwch ac yn lleddfu’r ofn ceisio “.
Mae dysgwyr yng nghampws Ystrad Mynach wedi defnyddio’r campws i wneud ymarfer corff, gan gynnwys cerdded a defnyddio’r gampfa. Er gwaethaf eu pryder cychwynnol, maent wedi mwynhau’r gweithgareddau a byddant yn elwa o ennill Gwobr Playmaker ar ddiwedd y prosiect, y gallant ei defnyddio yn eu gwaith cyflogedig.
Ychwanegodd Sharon “Mae’r dysgwyr wedi cael cyfleoedd gwych yn ystod y peilot; gan gymryd rhan yn Ultimate Frizbee, a drefnir gan Academi Pêl-droed i Ferched Cymru yn y Ganolfan Ragoriaeth, trampolinio mewn ogofâu yng Ngogledd Cymru a gêm hwyliog o Bêl-droed Swigod – a fwynhawyd gan bawb.
Byddai’n wych pe gellid cynnwys Llythrennedd Corfforol yn y cwricwlwm i ddysgwyr fel rhan o’u sgiliau cyflogadwyedd; bydd bod yn hyderus a meddu ar wybodaeth i gyflawni Llythrennedd Corfforol yn eu cyflogaeth yn y dyfodol yn werthfawr “.
Bydd y coleg yn cynnig sesiynau Llythrennedd Corfforol ychwanegol trwy’r Rhaglen Hwb wythnosol y flwyddyn nesaf. Bydd hyn yn rhoi cyfle i’r dysgwyr feithrin sgiliau Llythrennedd Corfforol a mwynhau symud ac ymarfer corff.
“