Dysgwyr Gofal Plant y Rhondda yn dathlu canlyniadau o’r radd flaenaf

Bu dathlu mawr yn y Cyflwyniadau Gofal eleni ar gampws y Rhondda Coleg y Cymoedd wrth i ddysgwyr edrych tuag at gamau nesaf eu taith ddysgu.

Cafodd pedwar dysgwr a oedd yn astudio ar y Diploma Estynedig Lefel 3 mewn Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant (NCFE Cache) eu cydnabod am eu graddau rhagorol Рcafodd Kiera Jones, Jessica Davies, Bethan James a Caitlin Daniels raddau A *, A, A yn eu tri phrosiect ymchwil a farciwyd yn allanol, sydd gyfwerth ̢ 4 gradd A Safon Uwch.

Mae’r cwrs yn rhoi’r wybodaeth a’r sgiliau ymarferol sydd eu hangen ar ddysgwyr i weithio mewn amrywiaeth o leoliadau Gofal Plant. Fel rhan o’r cwrs, astudiodd y dysgwyr ystod o unedau gan gynnwys Theorïau Datblygiad Plant a pholisïau a mentrau diweddar mewn Gofal Plant, gan gwblhau 50 awr o leoliad gwaith mewn amrywiaeth o amgylcheddau gwaith go iawn.

Mae dau o’r dysgwyr wedi cael cynnig lle mewn prifysgol, mae un wedi sicrhau cyflogaeth a bydd un yn dychwelyd i Goleg y Cymoedd. Dymunwn bob lwc i’n holl ddysgwyr ar gyfer y dyfodol.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau