Dysgwyr Gwallt a Harddwch yn arddangos eu sgiliau

Dangosodd dysgwyr gwallt a harddwch Coleg y Cymoedd eu talentau yn Sioe Avant-Garde eleni, gan brofi eu sgiliau i greu argraff ar feirniaid o’r diwydiant.

Roedd yr arddangosfa gyntaf i’w chynnal yng nghampws newydd Aberdâr yn gweld dysgwyr o’r ddwy adran yn ymuno i baratoi modelau a chreu amrywiaeth o edrychiadau thematig gan gynnwys ‘prom gala’ ac ‘avant-garde’, gyda’r edrychiad gorffenedig yn cael ei feirniadu gan banel allanol.

Ymunodd Dave Bassett, Llywydd y Gymdeithas Trinwyr Gwallt a Therapyddion, a Sue Morgan, darlithydd wedi ymddeol, i’r campws i gyflwyno eu llygad arbenigol, yn beirniadu pob un o’r edrychiadau am sgiliau, creadigrwydd a pherthnasedd i’r thema.

Karen Rees, 37 oed, sy’n astudio Trin Gwallt NVQ Lefel 3, enillodd y categorïau ‘Prom Avant Garde’ a ‘thema unigol Avante Garde’ gyda’i hedrychiadau galaethol ac uncorn. Dywedodd: Mae’r diwgyddiad hwn wedi bod yn rhyfeddol. Rhoes bawb a gymerodd ran 100% ac roedd y cyfan yn berffaith. Yn bersonol rwyf wrth fy modd fy mod wedi ennill dau gategori a chyda’r adborth a gefais gan y beirniaid. “

Roedd y digwyddiad yn cynnwys dysgwyr ar gyrsiau trin gwallt lefel 1,2 a 3 yn ogystal â’r rhai sy’n astudio harddwch lefel 1 a 2. Roedd gofyn i Lefel 1 a 2 greu golwg avant-garde, ac roedd gofyn i ddysgwyr lefel 3 gwblhau’r ddwy thema.

Wedi’i gwblhau fel rhan o astudiaethau’r dysgwyr ar gyfer y modiwl ‘Datblygu, gwella a gwerthuso’ch sgiliau trin gwallt creadigol’, cafodd pob dysgwr trin gwallt ei baru â dau ddysgwr harddwch i greu’r edrychiad terfynol ar gyfer y gystadleuaeth, gan weithio drwy’r dydd yn paratoi ar gyfer y sioe gyda’r nos.

Hefyd, cafodd dysgwyr arlwyo Lefel 1 a 2 y cyfle i roi eu sgiliau ar waith, gan ddarparu bwffe ar gyfer y digwyddiad, tra’r oedd dysgwyr cyfryngau yn cynorthwyo gyda’r goleuadau a’r cynhyrchu ar gyfer y llwyfan. Cymerodd 90 o ddysgwyr y coleg ran.

Croesawodd yr arddangosfa, a oedd yn agored i’r cyhoedd, fwy na 75 o westeion ar y noson, gyda raffl a pherfformiadau byw gan Rio Scibona hefyd ar gael i’r sawl a oedd yn mynychu.

Dywedodd Karen Fenn, darlithydd trin gwallt yng Ngholeg y Cymoedd “Roedd yn ddigwyddiad gwych gyda sgiliau o safon uchel, sy’n dangos ansawdd y cyrsiau gwallt a harddwch a gynigir yng Ngholeg y Cymoedd yn ogystal â’r cyfleusterau eithriadol y campws. Gweithiodd pob dysgwr yn eithriadol o dda ar gyfer y digwyddiad gyda manylder gwych yn eu gwaith. “

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau