Dysgwyr gwisgoedd coleg yn dod â Shrek The Musical yn fyw ar lwyfan y Theatr Newydd

Bydd grŵp o ddysgwyr dawnus o goleg yn Ne Cymru yn gweld y gwisgoedd a’r propiau a grëwyd ganddynt yn eu gogoniant ar lwyfan ar gyfer noson agoriadol addasiad theatr gerddorol y ffilm arobryn, Shrek.

Mae saith ar hugain o ddysgwyr Llunio Gwisgoedd a Phropiau o Goleg y Cymoedd wedi bod yn gweithio’n ddiflino i greu’r amrywiaeth o wisgoedd a phropiau sydd ei hangen ar gyfer adloniant byw animeiddiad Dreamworks, sy’n cyrraedd Theatr Newydd Caerdydd o 29 Mai.

Fel rhan o gydweithio ag Orbit Theatre, mae dysgwyr blwyddyn gyntaf ac ail flwyddyn y Cwrs Sylfaen Llunio Gwisgoedd ar gyfer y Sgrin a’r Llwyfan wedi ymgymryd â’r her o ddod â dros dri deg o gymeriadau adnabyddus yn fyw. Yn ogystal â hyn, gofynnwyd i ddysgwyr y cwrs HND yn y Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol (Creu Propiau) ddylunio a chreu’r propiau a’r pypedau cefnogol ar gyfer yr addasiad o’r ffilm boblogaidd.

Mae’r dysgwyr, sy’n astudio yng nghampws Nantgarw’r coleg, yn gweithio’n agos gyda thîm cynhyrchu Shrek the Musical, yn ogystal â gweithio ochr yn ochr â’r cast sydd wedi bod yn mynychu ffitiadau rheolaidd.

Drwy gydol y broses, mae dysgwyr wedi dysgu am ofynion gwisgoedd ar gyfer y llwyfan ac wedi mynd y tu hwnt i’w gwaith arferol i lunio’r cymeriadau anarferol sy’n ymddangos yn Shrek. Mae hyn yn cynnwys arbrofi gyda phadin corff i greu gwisgoedd anghenfil a chynhyrchu amrywiol ddyluniadau o anifeiliaid ar gyfer y cymeriadau niferus a geir yn y cynhyrchiad.

Dywedodd Rebecca Southall, dysgwr blwyddyn gyntaf y cwrs Llunio Gwisgoedd sy’n creu gwisgoedd y fam a’r tad: “Mae gweithio ar y gwisgoedd ar gyfer y sioe gerdd wedi rhoi profiad anhygoel imi yn y diwydiant.

“Dwi erioed wedi gweithio ar ddylunio gwisgoedd i’r theatr o’r blaen ac mae mor ddiddorol gweld sut mae’n wahanol i greu gwisgoedd ar gyfer ffilm. Rwyf wrth fy modd yn gweithio’n agos gyda’r cast a’r tîm cynhyrchu drwy gydol y prosiect.

”Ar ôl llwyddiant cydweithio blaenorol gydag Orbit Theatre, gan gynnwys llunio gwisgoedd ar gyfer addasiad cerddorol yr amineiddiad blaenllaw Madagascar, rhoddwyd cyfle arall i’r dysgwyr weithio gyda’r cwmni. Bydd y sioe yn gweld cymeriadau annwyl fel Shrek, Princess Fiona, Donkey a Lord Farquaad ar y llwyfan yn adrodd stori’r arwr annhebygol.

Nod y Cwrs Sylfaen Llunio Gwisgoedd dwy flynedd yng Ngholeg y Cymoedd, a gyflwynir mewn partneriaeth â Phrifysgol De Cymru, yw rhoi cyflwyniad trylwyr i ddysgwyr i lunio gwisgoedd o fewn diwydiannau theatr a ffilm.

Dywedodd arweinydd y cwrs a’r darlithydd ar y Cwrs Sylfaen Llunio Gwisgoedd, Emma Embling: “Mae’n wych gweithio ar gynhyrchiad arall yn y Theatr Newydd ac mae’r dysgwyr yn cael y cyfle cyffrous iawn i fod yn rhan ohono. Mae cymryd rhan mewn prosiectau gyda chwmnïau theatr yn eu helpu i ddatblygu eu sgiliau a dysgu mwy am dorri a llunio gwisgoedd sy’n addas ar gyfer y llwyfan.

“Mae’r cydweithio yn rhoi profiad ymarferol, gwerthfawr i ddysgwyr yn y diwydiant theatr ac maen nhw’n mwynhau gweld y gwisgoedd yn dod yn fyw.”

Dywedodd Richard Embling, Darlithydd ar y cwrs HND yn y Celfyddydau Cynhyrchu Creadigol: “Mae gweithio ochr yn ochr â’r cwrs llunio gwisgoedd wedi rhoi dealltwriaeth go iawn i’r dysgwyr o’r diwydiant. Cafwyd rhai propiau llawn hwyl i ddatrys problemau ar eu cyfer. Mae’n ffordd wych o orffen y flwyddyn ac ni all pawb dan sylw aros i weld eu gwaith ar y llwyfan. ”

Gallwch weld Shrek the Musical o ddydd Mercher 29 Mai – dydd Sul 2 Mehefin yn Theatr Newydd, Caerdydd. I gael rhagor o wybodaeth am y Cwrs Sylfaen Llunio Gwisgoedd ar gyfer y Sgrin a’r Llwyfan yng Ngholeg y Cymoedd, ewch i – https://www.cymoedd.ac.uk/costumeconstruction

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau