Dysgwyr lleol ymhlith rhai fydd yn mynd i Rydychen a Chaergrawnt

Mae tri o ddysgwyr dawnus Lefel A Coleg y Cymoedd wedi llwyddo i gael cynigion gan ddwy o brifysgolion amlycaf Prydain.

Mae Carys Lewis wedi derbyn cynnig i astudio Cemeg yng Ngholeg Exeter, Prifysgol Rhydychen, bydd Jacob Jones yn astudio Ffiseg yng Ngholeg yr Iesu, Rhydychen a Luc Jones yn astudio Cyfrifiadureg yng Ngholeg Wolfson, Prifysgol Caergrawnt.

Mae Carys a Jacob, y ddau o Bontypridd, yn rhan o Raglen Seren yng Ngholeg y Cymoedd sy’n cefnogi dysgwyr gyda’u ceisiadau i brifysgolion cystadleuol fel Rhydychen a Chaergrawnt, prifysgolion Grŵp Russell ac ysgolion meddygol.

Wrth drafod yr ymarferion cyfweld yn arddull Rhydychen a Chaergrawnt a drefnwyd gan Goleg y Cymoedd a’r rhaglen Seren, meddai Carys: “Y cyfweliad ydy’r rhan fwyaf brawychus o broses dderbyn ‘Oxbridge’, felly roedd yr hyfforddiant a gefais gan arbenigwr pwnc, am y mathau o gwestiynau y gallwn eu disgwyl a’r ffordd o fynd i’r afael â nhw, wedi fy helpu i baratoi fy hun yn wirioneddol ar gyfer fy nghais.”

Mae staff Rhaglen Seren a Lefel A Coleg y Cymoedd wedi cyflwyno dysgwyr i gynlluniau ehangu mynediad sy’n blaenoriaethu dysgwyr cyflawniad uchel o ysgolion y wladwriaeth, gan eu hannog i wneud cais am le yn y prifysgolion blaenaf.

Ym mis Gorffennaf 2022, roedd Jacob yn un o dri o ddysgwyr Coleg y Cymoedd a lwyddodd i gael lle ar Ysgol Haf wythnos o hyd wedi ei hariannu’n llawn ym Mhrifysgol Rhydychen. Rhoddodd y rhaglen ‘UNIQ’ fewnwelediad gwerthfawr i Jacob i fywyd ym Mhrifysgol Rhydychen ac arweiniodd hynny iddo wneud ei gais fis Medi diwethaf.

Yn yr un modd, roedd Luc yn gallu ymuno â rhaglen arloesol ‘STEM SMART’ Prifysgol Caergrawnt, a lansiwyd ym mis Medi 2021. Rhoddodd STEM SMART gyfle i Luc gael goruchwyliaeth wythnosol ar-lein gydag arbenigwyr academaidd blaenllaw Caergrawnt yn eu maes ac fe neilltuwyd mentor myfyriwr iddo. Wrth siarad am y cyfle hwnnw, dywedodd Luc: “Mae STEM SMART wedi bod o gymorth mawr i mi. Rhoddodd y sesiynau tiwtorial ddealltwriaeth ddyfnach i mi o bynciau allweddol, ac fe wnaethon nhw ailymweld â meysydd ble roedd gen i fylchau yn fy ngwybodaeth.”

Drwy dderbyn cynigion amodol ar gyfer cychwyn eu hastudiaethau ym mis Medi, mae’r myfyrwyr wedi profi eu bod ar frig carfan myfyrwyr 2023. Dim ond 17% o ymgeiswyr Rhydychen a Chaergrawnt sy’n cael cynnig lle, a hynny’n dilyn proses ymgeisio hynod drwyadl.

Mae’r cynigion yn cynrychioli llwyddiant pellach na hynny, hyd yn oed, gan fod y cyrsiau o’u dewis ymhlith rhai categori STEM sydd o werth uchel yn y DU (pynciau’n cynnwys Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg). Mae mwy o alw nag erioed am ymgeiswyr o ansawdd ar gyfer pynciau STEM oherwydd yr effaith gadarnhaol a gaiff rhain ar y gymdeithas a’r economi.

Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Ian Rees, Y Cyfarwyddwr Lefel A: “Rydyn ni’n eithriadol o falch o lwyddiant Carys, Jacob a Luc. Mae’n dystiolaeth o’u hymroddiad i’w hastudiaethau ac i’r gefnogaeth addysgu ragorol a ddarperir gan ein staff.

Mae ein staff Lefel A – yn arbennig, Holly Richards, ein cydlynydd MAT – wedi gwneud gwaith gwych yn cefnogi’r dysgwyr hyn trwy’r broses ymgeisio, drwy’r prawf o’u doniau a phroses gyfweld hynod heriol Rhydychen a Chaergrawnt.

Rydw i a Dean Howells, Pennaeth yr Ysgol Lefel A, yn hynod falch o’n holl ddysgwyr sy’n anelu i gyflawni eu nodau astudio a gwireddu eu gyrfa. Mae’r cyflawniad sylweddol hwn yn dangos bod dysgwyr sy’n dewis astudio yng Ngholeg y Cymoedd yn wir yn gallu cyrraedd ymhellach.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau