Dysgwyr lleol yn mynd i Rydychen

Mae dau ddysgwr o Goleg y Cymoedd wedi llwyddo sicrhau lle ar Raglen Ysgol Haf fawreddog UNIQ ym Mhrifysgol Rhydychen.

Mae Jodie Neville a Wei Tou Chiu yn falch iawn o ennill lle yn erbyn cystadleuaeth ffyrnig gan ymgeiswyr ledled Prydain. Mae ysgolion haf UNIQ yn rhan o raglen ehangu mynediad, sy’n agored i ddysgwyr sy’n astudio ym mlwyddyn gyntaf eu cymwysterau Safon Uwch, gan roi blaenoriaeth i ymgeiswyr sy’n dod o ysgolion ac ardaloedd heb fawr ddim hanes o geisiadau llwyddiannus i Rydychen.

 

I fynegi eu diddordeb yn yr ysgolion haf, roedd yn rhaid i’r dysgwyr gyflwyno datganiadau personol yn amlinellu eu diddordeb yn y cwrs a ddewiswyd ganddynt a’u rhesymau dros fod eisiau mynychu UNIQ; roedd y datganiadau hyn hefyd yn gofyn am gymeradwyaeth gan aelodau o staff y coleg. Llwyddodd y ddau ddysgwr sicrhau lle ar gyrsiau o’u dewis.

Ym mis Gorffennaf, bydd Jodie a Wei yn cael blas ar wythnos arferol ym Mhrifysgol Rhydychen, yn aros yn llety’r myfyrwyr ac yn mynychu darlithoedd, seminarau a gweithdai ynghylch gwneud cais i Rydychen. Byddant hefyd yn cael cyfle i fwynhau amrywiaeth o weithgareddau cymdeithasol a geir yn y rhaglen.

Dywedodd Jodie, 16 oed o Dreharris, a sicrhaodd le ar raglen y Gyfraith, “Roeddwn wrth fy modd pan glywais fy mod wedi ennill lle ar Ysgol Haf UNIQ ar gyfer y Gyfraith! Roedd fy nhiwtoriaid wedi fy annog i wneud cais ond nid oeddwn yn meddwl y byddwn yn cael fy newis. Ni allaf aros i brofi’r bywyd academaidd a chymdeithasol sydd gan prifysgol fawr fel Rhydychen i’w chynnig – rwy’n siŵr y bydd y cyfan yn brofiad anhygoel.

“Ychwanegodd Wei Tou, 16 oed o’r Porth, a fydd yn mynychu’r rhaglen Gwyddorau Dynol, “Rwy’n ddiolchgar iawn i Goleg y Cymoedd am gefnogi’r cais llwyddiannus ar gyfer y rhaglen UNIQ ym Mhrifysgol Rhydychen, sy’n addo bod yn gyfle gwych. Rwy’n siŵr y byddaf yn dysgu llawer iawn o’r profiad, a bydd yn fy helpu i wneud penderfyniad gwybodus am fy newisiadau prifysgol a gyrfa bosibl yn y dyfodol.”

Wrth longyfarch y dysgwyr, dywedodd Cyfarwyddwr y Gyfadran Safon Uwch, Ian Rees, “Rwyf wrth fy modd bod Jodie a Wei Tou wedi sicrhau lle ar ysgol haf UNIQ eleni ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae cyfleoedd fel hyn yn amhrisiadwy wrth ddarparu cipolwg ar fywyd prifysgol yn un o sefydliadau mwyaf nodedig y DU.

Yng Ngholeg y Cymoedd, rydym yn falch o’r dewis o bynciau Safon Uwch a gynigiwn, ynghyd â’r addysgu a’r gefnogaeth ardderchog gan staff. O gofio lefel cymhelliant y dysgwyr hyn, rydym yn gobeithio’n fawr y byddant yn dilyn ôl troed rhai o’n dysgwyr blaenorol, sydd hefyd wedi mynd ymlaen i astudio ym Mhrifysgol Rhydychen.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau