Dewiswyd grŵp o ddysgwyr o Goleg y Cymoedd i gymryd rhan mewn menter ‘Siop Wib’ i arddangos eu cynnyrch Nadolig. Wrth baratoi ar gyfer y digwyddiad, bu’r dysgwyr, sy’n astudio ar y cwrs Mynediad Galwedigaethol yng Ngholeg y Cymoedd, yn trafod pa nwyddau fyddai’n boblogaidd cyn cytuno ar amrywiaeth o gynnyrch ‘Ailgylchu ac Ecogyfeillgar’.
Treuliodd y grŵp, ynghyd â’u cymheiriaid ar y cwrs, fisoedd prysur cyn y digwyddiad yn cynhyrchu nwyddau i’w gwerthu yn y ‘Siop Wib’. Roedd y siop, a leolwyd yng Nghanolfan Siopa Capital Caerdydd, ar gael i’r dysgwyr hyrwyddo menter; fel rhan o brosiect a gydlynwyd gan Brifysgol Caerdydd. Roedd Syniadau Mawr Cymru hefyd yn cefnogi’r digwyddiad gyda Model Rôl Sharone Williams yn helpu dysgwyr i ymgysylltu â’r cyhoedd a datblygu eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid. Dywedodd Lesley Cottrell, Rheolwr Sgiliau Menter a Chyflogadwyedd, Mae ymdrech yr holl ddysgwyr a staff yn sicr wedi talu ffordd. Roedd y siop yn gwbl anhygoel ac roedd y dysgwyr wedi ymrwymo’n llwyr ac yn gwneud gwaith gwych. Roedd eu hymdeimlad o gyflawniad yn gadarn, ni allai’r profiad fod wedi bod yn fwy “realâ€.
Drwy gydol y dydd, heriwyd y dysgwyr i brofi eu sgiliau masnachol, gan ymgysylltu â siopwyr Nadolig i werthu eu cynnyrch gan gynnwys addurniadau Nadolig a choed Nadolig trawiadol wedi’u gwneud o baletau. Ymhlith y nwyddau eraill ar werth yn y siop wib roedd catwad blasus o gynnyrch a dyfwyd yn y Parth Gwyrdd a mêl ffres blasus o’r gwenyn, a gedwir hefyd yn y Parth Gwyrdd, campws Ystrad Mynach.
Dywedodd Tiwtor y Cwrs, Dorian Adkins, “Bu’n gyfle anhygoel i arddangos sgiliau ein dysgwyr dawnus. Rydym yn falch iawn ohonynt. Er mai grŵp o 20 o ddysgwyr a oedd yn gwerthu drwy gydol y dydd yn y Siop Wib, mae llawer rhagor o ddysgwyr wedi helpu ‘tu ôl i’r llenni’, gan gynhyrchu’r eitemau i’w gwerthu. Mae’r awyrgylch wedi bod yn rhyfeddol ac mae ein dysgwyr wedi ennill sgiliau gwerthfawr drwy gydol y prosiect “.
Ymhlith y staff a oedd hefyd yn ymwneud â’r gwaith, roedd Diane Jones, Emma Chakrabati, Kerry Hartnell, Cath Richards a Samantha Thomas.
“