Mae grŵp o ddysgwyr o gymoedd De Cymru wedi cael y wers tu allan i’r dosbarth orau erioed gyda thaith unigryw i un o ganolfannau ymchwil gwyddonol orau’r byd.
Aeth grŵp o 26 dysgwr o gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd, i ganolfan enwog CERN yn y Swistir i ddysgu am y gwaith sy’n cael ei wneud yn y sefydliad ac i weld y Peiriant Gwrthdaro Hadronau Mawr eiconig – peiriant gwerth sawl biliwn o bunnoedd sy’n efelychu’r foment yn dilyn y ‘Big Bang’.
Roedd yr ymweliad yn rhan o daith a wnaethpwyd yn gynharach eleni gan 24 athro ffiseg o ledled Cymru, gan gynnwys Anthony Mitchell, darlithydd ffiseg o Goleg y Cymoedd. Dewiswyd Anthony i fynd ar daith o amgylch y ganolfan fawreddog yn Genefa i edrych ar y darganfyddiadau diweddaraf yn y maes ffiseg gronynnau.
Roedd Carys Arianwen Haf, dysgwr 20 oed o Lantrisant, yn un o’r rhai lwcus a wahoddwyd i fynychu’r trip egsgliwsif. Gan ei bod hi wedi eisiau ymweld â CERN erioed, neidiodd Carys, sydd yn astudio ar gyfer lefel A mewn bioleg, cemeg a mathemateg ar hyn o bryd, ar y cyfle a chynigwyd y daith i’r rheiny sy’n astudio gwyddoniaeth yng Nghanolfan Lefel A Coleg y Cymoedd.
Dywedodd Carys: “Roeddwn i wedi fy nghyffroi’n lân wrth ymweld â CERN. Nid yw’n gyfle sy’n codi bob dydd ac roedd y profiad mor ddiddorol. Mae ffiseg gronynnau yn fy niddori’n fawr a chan nad wyf yn astudio ffiseg yn y coleg, caniataodd yr ymweliad imi ddysgu pethau newydd a chyffrous na fyddwn wedi eu dysgu fel arall. Hefyd, caniataodd imi fynychu gweithdai na fyddwn wedi gallu eu mynychu fel aelod o’r cyhoeddâ€.
Cafodd y dysgwyr gyfle prin i weld cyfleusterau o’r radd flaenaf CERN, mynychu sesiynau gweithdy, arbrofion ffiseg a chwrdd ag ymchwilwyr a pheirianwyr i glywed am y gwaith sy’n digwydd yn y ganolfan, a’i effaith ar wyddoniaeth bywyd bob dydd. Ar wahân i weld y Peiriant Hadronau Mawr yn agos, yr uchafbwynt i’r myfyrwyr oedd y gweithdy siambr cymylau, lle edrychasant ar ronynnau cosmig ac ymbelydredd naturiol gweladwy gan ddefnyddio deunyddiau a chyfarpar, fel iâ sych, sy’n anodd ei gael ar gyfer defnydd yn y dosbarth.
Yn ystod y daith dau ddiwrnod ymwelodd y dysgwyr a llyn Genefa, y gerddi botaneg a’r Amgueddfa Hanes Gwyddoniaeth, a roes y cyfle iddynt ddysgu am ystod o bynciau cyffrous wrth weld a gwerthfawrogi pensaernïaeth a diwylliant Genefa ei hun.
Dywedodd Carys, sy’n gobeithio astudio bioleg yn y brifysgol ac sydd ag uchelgais i ddilyn gyrfa mewn ymchwil biolegol, fod ei phrofiad yn CERN ond wedi atgyfnerthu ei phenderfyniad i ddilyn y llwybr ymchwil STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg).
Dywedodd: “Mae’n beth anarferol gweld cynrychiolaeth menywod mewn unrhyw faes gwyddonol, heb sôn am ymchwil, ac felly roedd gweld menywod yn gweithio fel ymchwilwyr ffiseg yn CERN yn ysbrydoledig iawn. Fe’m hatgoffodd ei bod hi’n bosibl i fenywod lwyddo yn y meysydd academaidd yr wyf yn gobeithio gweithio ynddynt ryw ddiwrnod ac mae wedi fy ysgogi i weithio’n galed i gyflawni fy uchelgais.â€Â
Dywedodd Judith Evans, pennaeth Coleg y Cymoedd: “Rydym wedi ymrwymo i gynnig y cyfle i’n dysgwyr fod yn rhan o ystod eang o brofiadau addysgiadol, a’n gobaith yw y bydd hyn yn eu hysbrydoli i wireddu’r llwybrau gyrfa sydd ar gael iddynt. Rydym ni’n gobeithio – gan iddynt weld y cyfleuster ymchwil CERN a’u llygaid eu hunain a chwrdd ag ymchwilwyr arbrofol, y bydd y bobl ifanc hyn yn cael eu dylanwadu i ystyried gyrfa yn y gwyddorau. Nifer fechan o bobl all ddweud eu bod wedi ymweld â CERN a bydd y daith unigryw hon nid yn unig yn gyfle bythgofiadwy i’n dysgwyr, ond bydd yn rhoi’r sgiliau a’r wybodaeth ychwanegol iddynt a fydd yn eu helpu yn eu hymdrechion yn y dyfodol.†Â
“