Disgwylir i grŵp o ddysgwyr creadigol o Gymoedd De Cymru droedio’r llwyfan rhithwir i ddifyrru cynulleidfaoedd pell ac agos gyda chlasur Shakespeare.
Mae 12 o ddysgwyr y Celfyddydau Perfformio o Goleg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer perfformiad o gomedi Shakespeare ‘Much Ado About Nothing’ fel rhan o ŵyl genedlaethol sy’n dathlu’r dramodydd enwog.
Bydd y dysgwyr, sydd i gyd yn astudio cwrs Mynediad Galwedigaethol yn y Celfyddydau Perfformio, yn camu i’r llwyfan ar gampws Nantgarw’r coleg ddydd Iau 3 Rhagfyr am 2pm ar gyfer y perfformiad, a fydd yn cael ei ffrydio’n fyw yn ddigidol i aelodau’r cyhoedd gael ei fwynhau o gysur eu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim
Mae’r sioe yn rhan o ŵyl ddrama ieuenctid fwyaf y byd a gynhelir gan yr elusen addysg ddiwylliannol flaenllaw, Coram Shakespeare Schools Foundation (CSSF). O dan amgylchiadau arferol byddai miloedd o ddysgwyr o ysgolion a cholegau ledled y DU yn perfformio dramâu Shakespeare ar lwyfannau proffesiynol ledled y wlad ar ôl misoedd o baratoi mewn gŵyl flynyddol.
Ond, gyda chyfyngiadau cyfredol Covid-19 yn gorfodi theatrau ledled y wlad i gau, mae’r CSSF wedi addasu gŵyl eleni drwy ei symud ar-lein.
Mae Coleg y Cymoedd wedi bod yn cymryd rhan yn yr ŵyl ers 3 blynedd. Er y byddai dysgwyr fel arfer yn camu i’r llwyfan o flaen cannoedd o bobl yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd, bydd cynhyrchiad eleni yn cael ei fwynhau’n ddigidol.
Dywedodd Conor Davies sy’n 19 oed ac yn un o’r dysgwyr a sy’n cymryd rhan yn y cynhyrchiad: “Mae cymryd rhan yng ngŵyl Shakespeare wedi bod yn brofiad dysgu gwych. Er bod perfformio’n brofiad sy’n gwneud imi deimlo’n nerfus, mae cymryd rhan yn y perfformiad hwn wedi helpu i roi hwb mawr i’m hyder, ar y llwyfan ac oddi arno. â€
Ychwanegodd Alex Lawless, sy’n 20 oed ac sy’n cymryd rhan yn y ddrama hefyd: “Gyda’r holl gyfyngiadau a mesurau amrywiol sydd ar waith ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, mae cynllunio’r ddrama ac ymarfer ar ei chyfer wedi bod yn heriol, ond mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr yn fawr i ddod â’r ddrama’n fyw, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at y perfformiad terfynol, hyd yn oed os bydd hynny’n berfformiad ar-lein.
I baratoi ar gyfer y sioe, mae dysgwyr a thiwtoriaid Coleg y Cymoedd wedi cymryd rhan mewn gweithdai a gynhaliwyd gan CSSF, darlleniadau sgript, ac ymarferion technegol a gwisg di-ri ar y campws yn y cyfnod cyn y perfformiad terfynol.
Dywedodd Angela Fitzgerald, tiwtor cwrs y Celfyddydau Perfformio Mynediad Galwedigaethol yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae ein dysgwyr Celfyddydau Perfformio wedi bod yn paratoi ar gyfer y sioe ers dechrau’r flwyddyn academaidd ac maent yn edrych ymlaen yn fawr at ddangos yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno.â€
“Nid yw dramâu Shakespeare yn bethau hawdd eu perfformio oherwydd yr iaith gymhleth ac mae’n drueni na allwn berfformio’n fyw ar y llwyfan mawr fel rydym yn ei wneud fel arfer. Fodd bynnag, mae’r dysgwyr wedi bod yn fwy na pharod i fwrw ati, dal ati a chynnal sioe wych. Rydw i’n falch iawn o’r gwaith caled maen nhw wedi’i wneud gyda’r ddrama, y ​​tu ôl i’r llenni ac ar y llwyfan. â€
“