Dysgwyr o’r Cymoedd yn cymryd rhan mewn gŵyl Shakespeare digidol

Disgwylir i grŵp o ddysgwyr creadigol o Gymoedd De Cymru droedio’r llwyfan rhithwir i ddifyrru cynulleidfaoedd pell ac agos gyda chlasur Shakespeare.

Mae 12 o ddysgwyr y Celfyddydau Perfformio o Goleg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn paratoi ar gyfer perfformiad o gomedi Shakespeare ‘Much Ado About Nothing’ fel rhan o ŵyl genedlaethol sy’n dathlu’r dramodydd enwog.

Bydd y dysgwyr, sydd i gyd yn astudio cwrs Mynediad Galwedigaethol yn y Celfyddydau Perfformio, yn camu i’r llwyfan ar gampws Nantgarw’r coleg ddydd Iau 3 Rhagfyr am 2pm ar gyfer y perfformiad, a fydd yn cael ei ffrydio’n fyw yn ddigidol i aelodau’r cyhoedd gael ei fwynhau o gysur eu cartrefi eu hunain yn rhad ac am ddim

Mae’r sioe yn rhan o ŵyl ddrama ieuenctid fwyaf y byd a gynhelir gan yr elusen addysg ddiwylliannol flaenllaw, Coram Shakespeare Schools Foundation (CSSF). O dan amgylchiadau arferol byddai miloedd o ddysgwyr o ysgolion a cholegau ledled y DU yn perfformio dramâu Shakespeare ar lwyfannau proffesiynol ledled y wlad ar ôl misoedd o baratoi mewn gŵyl flynyddol.

Ond, gyda chyfyngiadau cyfredol Covid-19 yn gorfodi theatrau ledled y wlad i gau, mae’r CSSF wedi addasu gŵyl eleni drwy ei symud ar-lein.

Mae Coleg y Cymoedd wedi bod yn cymryd rhan yn yr ŵyl ers 3 blynedd. Er y byddai dysgwyr fel arfer yn camu i’r llwyfan o flaen cannoedd o bobl yn Theatr Glan yr Afon yng Nghasnewydd, bydd cynhyrchiad eleni yn cael ei fwynhau’n ddigidol.

Dywedodd Conor Davies sy’n 19 oed ac yn un o’r dysgwyr a sy’n cymryd rhan yn y cynhyrchiad: “Mae cymryd rhan yng ngŵyl Shakespeare wedi bod yn brofiad dysgu gwych. Er bod perfformio’n brofiad sy’n gwneud imi deimlo’n nerfus, mae cymryd rhan yn y perfformiad hwn wedi helpu i roi hwb mawr i’m hyder, ar y llwyfan ac oddi arno. ”

Ychwanegodd Alex Lawless, sy’n 20 oed ac sy’n cymryd rhan yn y ddrama hefyd: “Gyda’r holl gyfyngiadau a mesurau amrywiol sydd ar waith ar hyn o bryd oherwydd y pandemig, mae cynllunio’r ddrama ac ymarfer ar ei chyfer wedi bod yn heriol, ond mae wedi bod yn brofiad gwerth chweil. Rydw i wedi mwynhau gweithio gyda thiwtoriaid a chyd-fyfyrwyr yn fawr i ddod â’r ddrama’n fyw, ac rydym i gyd yn edrych ymlaen yn fawr at y perfformiad terfynol, hyd yn oed os bydd hynny’n berfformiad ar-lein.

I baratoi ar gyfer y sioe, mae dysgwyr a thiwtoriaid Coleg y Cymoedd wedi cymryd rhan mewn gweithdai a gynhaliwyd gan CSSF, darlleniadau sgript, ac ymarferion technegol a gwisg di-ri ar y campws yn y cyfnod cyn y perfformiad terfynol.

Dywedodd Angela Fitzgerald, tiwtor cwrs y Celfyddydau Perfformio Mynediad Galwedigaethol yng Ngholeg y Cymoedd: “Mae ein dysgwyr Celfyddydau Perfformio wedi bod yn paratoi ar gyfer y sioe ers dechrau’r flwyddyn academaidd ac maent yn edrych ymlaen yn fawr at ddangos yr hyn maen nhw wedi bod yn gweithio arno.”

“Nid yw dramâu Shakespeare yn bethau hawdd eu perfformio oherwydd yr iaith gymhleth ac mae’n drueni na allwn berfformio’n fyw ar y llwyfan mawr fel rydym yn ei wneud fel arfer. Fodd bynnag, mae’r dysgwyr wedi bod yn fwy na pharod i fwrw ati, dal ati a chynnal sioe wych. Rydw i’n falch iawn o’r gwaith caled maen nhw wedi’i wneud gyda’r ddrama, y ​​tu ôl i’r llenni ac ar y llwyfan. ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau