Dysgwyr Peirianneg yn troi tua’r goleuni

Enillodd tri o ddysgwyr Peirianneg o gampws y Rhondda, Coleg y Cymoedd y wobr gyntaf yng Nghystadleuaeth Dydd Gŵyl Dewi eleni. Mae’r gystadleuaeth, sydd bellach yn ddigwyddiad blynyddol yng nghalendr y coleg, yn rhan o ddathliadau ehangach yr Wythnos Gymreig.

Mae’r Wythnos Gymreig yn cynnig y cyfle i ddathlu Cymru, ei hiaith a’i diwylliant, ac mae’n cynnwys amrywiaeth o weithgareddau ar draws y pedwar campws. Y nod yw annog dysgwyr a staff i ddathlu eu treftadaeth a’u hiaith.

Eleni, gofynnwyd i ddysgwyr a grwpiau unigol ateb y cwestiwn ‘Beth mae Cymru yn ei olygu i mi?’ drwy unrhyw gyfrwng y dymunent.

Cyfarwyddwr pob campws a fu’n gyfrifol am ddewis y cais buddugol ar eu campws gydag enillydd Coleg y Cymoedd yn cael ei ddewis gan yr Is-Bennaeth David Finch, Pennaeth Datblygiadau’r Iaith Gymraeg Alison Jones a’r Swyddog Iaith Gymraeg Lois Roberts.

Y dysgwyr llwyddiannus ar gampws y Rhondda a’r enillwyr cyffredinol oedd Alex Joshua Howe, Evan James Chapman a Brandon Jason Knight. Cafodd y dysgwyr a oedd yn astudio ar y cwrs VRQ Peirianneg Lefel 3 y syniad o gynhyrchu Lamp Davey gan ddefnyddio’r wybodaeth a’r sgiliau a enillwyd yn eu hastudiaethau a’r offer sydd ar gael yng ngweithdy’r coleg.

 

Fe wnaethant ymchwil ar ddatblygiad lamp y glöwr a’r rhan bwysig a chwaraeodd yn y diwydiant glo, gan ddarparu golau i weithio ynddo a system atal damweiniau wrth iddo ganfod “firedamp” a diffyg ocsigen. Datblygodd y ‘lamp’ hefyd yn arwyddlun o lowyr De Cymru, a’u rôl ehangach o ddod â digwyddiadau addysg, hamdden, meddygol a diwylliannol i gymdeithas y meysydd glo. Yn ogystal, roedd arwyddocad personol i’r lamp ym meddwl y dysgwyr gan fod eu teidiau a’u hen deidiau yn lowyr balch ac roedd ganddynt hwy straeon am y cyfeillgarwch yn ystod eu cyfnod yn gweithio yn y pyllau glo.

 

Wrth dderbyn y wobr, rhoes Alex, Evan a Brandon ddiolch i’w teulu am eu gwaith yn y pyllau, gan gydnabod aberth dynion, menywod a phlant y gymdeithas lofaol yn ystod eu bywydau gwaith mewn amgylchiadau mor beryglus.

Wrth longyfarch yr enillwyr, dywedodd Cyfarwyddwr Campws y Rhondda, Carolyn Donegan “Mae’r dysgwyr hyn wedi dangos eu hymrwymiad llwyr i’w dysgu ar ôl teithio o fan cychwyn fel dysgwyr sylfaenol Mynediad Galwedigaethol i Lefel 3 Peirianneg. Oherwydd eu cryfder yn eu maes galwedigaethol maent ar lwybr Mwy Galluog a Thalentog. Maent yn sicr wedi ymateb i’r her hon, mae eu hymchwil a’u gwaith o greu’r lamp yn ardderchog ”.

Arweiniodd y gystadleuaeth at waith rhagorol gan y dysgwyr. Y cais buddugol ar gampws Aberdâr a’r ail orau ar y cyd yn gyffredinol oedd y Cae Rygbi. Prosiect ar y cyd oedd hwn gan Sean Evans a Dylan Joseph sy’n astudio ar y Cwrs Adeiladu E3 a’r dysgwyr o’r cwrs Creadigol Lefel 1 Thomas Biggin, Marcie Dalladay, Courtney Henning, Harry Jones, Jenna Jones, Saskia Gough, Charlotte Thomas, Megan Warner, Rhiannon White, Tiegan Griffiths, Dymonde David, a fu’n rhan o’r gwaith o addurno’r stand.

 

Dewiswyd Dysgwr Cysylltiadau Ysgol, Katie Ashleigh Williams yn ‘enillydd’ ar gampws Nantgarw ac yn ail ar y cyd am y wobr gyffredinol am ei cherdd.  Enillodd Kyle White, sy’n astudio ar gwrs Iechyd a Gofal Cymdeithasol Lefel 1 ar gampws Ystrad Mynach y wobr am ei waith celf o’r Ddraig Goch.

 

Wrth sôn am lwyddiant y gystadleuaeth a’r Wythnos Gymreig, meddai Alison Jones, Pennaeth Datblygiadau’r Gymraeg: “Roedd yn wych gweld nid yn unig nifer y ceisiadau a gawsom ar gyfer y gystadleuaeth hon, ond hefyd ansawdd y ceisiadau hynny. Roedd beirniadu’r enillydd cyffredinol yn anodd iawn gan fod ymdrech a sgiliau roedd y dysgwyr wedi’u dangos yn amlwg. Fel panel beirniadu, roeddem yn falch iawn o’n dysgwyr ac yn falch o’u gweld yn dathlu’r hyn y mae Cymru yn ei olygu iddyn nhw”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau