Mae grŵp o ddysgwyr Trin Gwallt a Harddwch o Goleg y Cymoedd wedi gwirfoddoli i ddarparu triniaethau gwallt a harddwch am ddim i gleifion ac ymwelwyr yn Ysbyty Ystrad Fawr i gefnogi’r ymgyrch Turn the Town Pink.
Mae’r ddau grŵp o ddysgwyr yn cynnig gwahanol weithgareddau hyrwyddo i gefnogi ‘Go Pink for Ystrad Mynach’. Bydd dysgwyr y Diploma Lefel 1 mewn Trin Gwallt a dysgwyr y Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch yng nghampws Ystrad Mynach yn hyrwyddo’r ymgyrch yn ystod eu sesiynau ymarferol yn y salonau.
Bydd dysgwyr y Diploma Lefel 3 mewn Trin Gwallt a dysgwyr y Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch hefyd yn ymweld â’r ysbyty er mwyn hyrwyddo’r gweithgareddau codi arian ar gyfer Canolfan Rhagoriaeth Gofal y Fron yn yr ysbyty.
Dywedodd Joanne Harris, Tiwtor y Cwrs Pan ofynnodd Alison Roberts, Cyfarwyddwr Campws Ystrad Mynach, inni feddwl am syniadau i gefnogi achos mor deilwng, neidiwyd ar y cyfle i gymryd rhan gan fod y profiad hwn yn rhoi cyfle i’n dysgwyr roi eu sgiliau newydd ar waith mewn amgylchedd gwaith ynghyd â rhoi rhywbeth yn ôl i’r gymuned. Bydd gweithio gyda chleientiaid hefyd yn helpu gwella eu sgiliau cyfathrebu a gofal cwsmeriaid cyffredinol, sy’n bwysig ochr yn ochr â’u sgiliau ymarferol. Rwyf yn falch o’r dysgwyr sydd wedi bod mor frwdfrydig wrth gefnogi cyfleuster mor hanfodol yn yr ardal “.
Ychwanegodd ddysgwr, “Rwyf yn edrych ymlaen at fynd i’r ysbyty i ddarparu gwasanaeth i’r cleifion. Rwyf yn gobeithio y bydd yn helpu codi eu hysbryd yn ystod eu cyfnod yno. Gallwn fanteisio ar y cyfle hwn i ennill profiad, nid yn unig o dorri gwallt ayb ond hefyd o gyfathrebu â’r cleifion. Hefyd, mae’n dda cefnogi ymgyrch Go Pink for Ystrad Mynach sy’n ariannu’r Ganolfan Rhagoriaeth Gofal y Fron – rwyf yn siŵr ein bod i gyd yn gwybod rhywun sydd wedi derbyn triniaeth mewn cyfleusterau mor bwysig, bydd yn dda cael y fath gyfleusterau yn ein hysbyty lleol .
Rhoes Alison Roberts, Cyfarwyddwr y Campws, ei diolch i’r staff a’r dysgwyr gan ddweud “Mae’n wych bod y tiwtoriaid a’r dysgwr am gefnogi’r digwyddiad hwn. Gwn fod yr Ysgol Gwallt a Harddwch eisoes yn gweithio’n wirfoddol yn Ysbyty Ystrad Fawr yn wythnosol a dyma ffordd hwyliog o barhau â’u hymrwymiad i’r cleifion a’n cymuned leol “.
“