Dysgwyr y Coleg yn bencampwyr Rygbi

Mae dysgwyr a staff Coleg y Cymoedd yn dathlu llwyddiant wrth i garfan dan 18 oed y coleg ddod yn bencampwyr Rygbi’r Gynghrair Ysgolion a Cholegau Cymru URC am yr ail flwyddyn yn olynol.

Cadwodd y coleg (sydd â chyswllt â Gleision Caerdydd) afael ar ei deitl fel pencampwr gyda buddugoliaeth o 28-19 dros ei wrthwynebwr pennaf Coleg Sir Gâr mewn brwydr dynn rhwng dau gawr y byd rygbi dan 18 oed yn Heol Sardis.

Mewn gêm agos, sef y seithfed rownd derfynol lle bu’r ddau dîm yn wynebu ei gilydd, roedd cefnogwyr y ddwy ochr ar flaen eu seddi cyn i geisiadau hwyr gan Will Clapham o dîm Dan 18 Gleision Caerdydd sicrhau buddugoliaeth i’r Cymoedd.

Gan ennill o naw pwynt, mae’r canlyniad yn nodi’r ail fuddugoliaeth olynol i Goleg y Cymoedd yn erbyn Coleg Sir Gâr, yn ogystal â phedair blynedd o deitlau Cynghrair Coleg URC ar gyfer y tîm.

Mae’r fuddugoliaeth yn dilyn tymor llwyddiannus i Goleg y Cymoedd sydd wedi gweld y garfan yn ennill 16 gêm o 17, gan gynnwys gemau cyn y tymor. Yn ogystal â chael eu coroni yn bencampwyr Ysgolion a Cholegau Cymru URC 2019, enillodd tîm y coleg Gwpan Colegau Prydain 2018 am y bumed flwyddyn yn olynol, gan guro cystadleuaeth gref o bob cwr o’r wlad am y teitl arobryn. Mae’r garfan bellach yn cystadlu yn y rowndiau grŵp ar gyfer Cynghrair Colegau Prydain 2019 ac maent eisoes ar frig eu grŵp.

Wrth drafod perfformiad buddugol a rhagorol y garfan dros y flwyddyn ddiwethaf, dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Rygbi Coleg y Cymoedd: “Mae 2018-2019 wedi bod yn dymor llwyddiannus arall ar gyfer y rhaglen rygbi. Roedd ennill cystadleuaeth Colegau Cymru a Cholegau Prydain yn yr un flwyddyn yn llwyddiant anhygoel ac un y gobeithiwn ei ailadrodd yn 2019. Mae dechrau’r flwyddyn gyda’r fuddugoliaeth yn erbyn Syr Gâr yn ein rhoi mewn sefyllfa gref iawn i wneud hyn.

“Mae cystadleuaeth arbennig rhwng Cymoedd a Sir Gâr ac roeddem yn falch iawn o fynd benben â nhw eto. Roedd yn bownd o fod yn gêm anodd gan fod y ddau dîm yn ddawnus iawn ac wedi eu hyfforddi’n dda, ond roeddem ni wedi paratoi’n dda, ac mae perfformiad y bechgyn wedi creu argraff fawr arnaf. Roedd yn gêm wych.

“Rwy’n falch iawn o’r ymdrech a’r ymrwymiad a ddangosir gan yr holl fechgyn ar y tîm. Nid yw’r llwyddiant y maent wedi’i gyflawni yn dod yn hawdd – maent yn griw dawnus iawn ac wedi gweithio’n galed iawn ar gyfer hyn, hyd yn oed yn dod i mewn dros wyliau’r Nadolig a’r Flwyddyn Newydd i hyfforddi. Adlewyrchwyd yr ymroddiad hwn gan y ffaith fod llawer ohonynt wedi’u dewis i chwarae ar gyfer timau rhanbarthol a chenedlaethol, gyda 18 o’n chwaraewyr yn sgwad bresennol y Gleision Dan 18 oed, a deg o’n bechgyn yn sgwad Cymru dan 18 a 19 oed. “Mae un dysgwr Coleg y Cymoedd wedi sicrhau lle gyda thîm dan 18 oed Gleision Caerdydd a gwersyll hyfforddi cenedlaethol Cymru sef Ieuan Pring 18 oed o Lanharan, sydd hefyd yn gapten tîm Dan 18 y coleg.

Dywedodd Ieuan: “Roedd hi’n rhyfeddol ennill Cwpan Ysgolion a Cholegau Cymru. Cawsom berfformiad cryf gan y bechgyn, sy’n dyst i’r holl waith a’r hyfforddiant. Rwy’n falch iawn o’r tîm a hefyd yn ddiolchgar i’n hyfforddwyr yn y coleg.

“Mae Academi Rygbi Coleg y Cymoedd wedi helpu i’n paratoi ar gyfer y gêm ac mae hefyd wedi helpu llawer o’r tîm i gychwyn eu gyrfaoedd rygbi. Mae’n wych ei fod yn eich galluogi i gyfuno rygbi ac addysg er mwyn ichi allu gweithio ar eich cymwysterau wrth gael hyfforddiant rygbi o’r radd flaenaf. “

Ynghyd â chwarae ar gyfer Gleision Caerdydd, mae Ieuan yn mynychu Academi Rygbi Coleg y Cymoedd lle mae’n astudio diploma Estynedig Lefel 3 BTEC wrth hyfforddi a chwarae gyda thîm rygbi’r Cymoedd.

Yn Academi Rygbi’r coleg, mae Ieuan yn derbyn hyfforddiant rygbi arbenigol ac yn dysgu am ddadansoddi rygbi ac am gryfder a chyflyru i’w helpu i fanteisio’n llwyr ar ei botensial fel chwaraewr rygbi. Fodd bynnag, mae Academi’r coleg hefyd yn sicrhau bod dysgwyr rygbi yn cael eu paratoi’n academaidd pe na bai gyrfa mewn rygbi yn dwyn ffrwyth.

Wedi’i gynllunio i roi cyfle i chwaraewyr gyfuno hyfforddiant rygbi achrededig gydag astudiaeth academaidd llawn amser, mae’r academi yn cynnig cymwysterau chwaraeon BTEC Lefel 1, 2 neu 3 a / neu Safon Uwch ochr yn ochr â hyfforddiant fel rhan o’r rhaglen.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau