Mae Coleg y Cymoedd wedi ennill gwobr am ei waith rhyngwladol gyda myfyrwyr. Cyflwynwyd y wobr yn Seremoni Gwobrau Rhyngwladol a gynhaliwyd yng Nghanolfan y Mileniwm.
Mae’r gwobrau blynyddol hyn yn cydnabod addysgu rhagorol gyda dimensiwn rhyngwladol yn ysgolion a cholegau Cymru. Trefnir y gwobrau gan British Council Cymru gyda nawdd Llywodraeth Cymru fel rhan o Raglen Addysg y Cyngor Prydeinig Rhyngwladol.
Enillodd Coleg y Cymoedd Wobr Ryngwladol Colegau Cymru am ei gyfraniad i brosiectau symudedd a phartneriaethau gyda sefydliadau yn yr UE mewn gwledydd megis Denmarc, Y Ffindir a’r Eidal. Roedd y beirniaid yn unfryd bod y cyfnewid cilyddol sy’n digwydd yng Ngholeg y Cymoedd yn rhoi profiad amhrisiadwy i’w fyfyrwyr o weithio a byw dramor tra’n astudio. Yn ogystal â gwella eu sgiliau ieithyddol a phersonol, mae’r rhaglenni yn helpu myfyrwyr i ennill sgiliau cyflogadwyedd gwerthfawr ac yn sgil hynny, bydd gwell gobaith am yrfa yn y dyfodol.
Dywedodd Kathryn Bishop, Swyddog Rhyngwladol Coleg y Cymoedd: “Mae’n fraint i Goleg y Cymoedd dderbyn Gwobr Rhyngwladol Colegau Cymru am y drydedd flwyddyn yn olynol. Mae’r profiadau yr ydyn ni’n cynnig i’n staff a’n myfyrwyr wedi atgyfnerthu ein cysylltiadau rhyngwladol ac wedi caniatáu i ni sefydlu partneriaethau hir-dymor sy’n cyfoethogi’r cwricwlwm a phrofiad y dysgwyr fel ei gilydd.â€
Dywedodd Jenny Scott, Cyfarwyddwr British Council Cymru: “Mae’r gwobrau Rhyngwladol yn amlygu llwyddiannau ysgolion a cholegau sy’n helpu eu myfyrwyr fod yn ddinasyddion byd-eang.
“Mae’n bwysig i ysgolion a cholegau gyflwyno dimensiwn rhyngwladol i’w gwersi. Rydyn ni’n credu bod rhoi persbectif rhyngwladol i bobl ifanc yn eu helpu i fod yn ddinasyddion byd-eang, yn rhoi cipolwg ar ddiwylliannau a gwledydd newydd iddyn nhw yn ogystal â sbarduno diddordeb mewn dysgu ieithoedd.
“Mae prosiectau rhyngwladol hefyd o fantais i athrawon, gan eu cyflwyno i arferion a safbwyntiau newydd.â€
Yn y seremoni wobrwyo, roedd disgyblion yn gallu cymryd rhan mewn nifer o weithdai, gan gynnwys stomp barddoniaeth gyda Martin Daws, bardd pobl ifanc Cymru, ynghyd â’r cerddor Francesca Dimech sydd wedi gweithio gyda cherddorion stryd ym Mrasil. Cawson nhw hefyd gyfle i gwrdd â’r anturiaethwr Antony Jinman a gweithio gyda’r artist Sharon Flint i greu gwaith celf seiliedig ar daith fudo blynyddol gwenoliaid o Gymru i Lesotho.