Mae grŵp newydd o ddysgwyr ar y cwrs therapi harddwch wedi bod yn casglu anrhegion Nadolig ar gyfer teuluoedd wedi eu heffeithio gan drais yn y cartref.
Dyma’r ail flwyddyn yn olynol i ddysgwyr therapi harddwch campws Nantgarw Coleg y Cymoedd gasglu anrhegion i blant fydd yn treulio’r Nadolig mewn lloches rhag trais ar yr aelwyd.
Mae’r dysgwyr wedi bod ynghlwm ag elusen ‘Don’t Look Back’ sy’n rhoi cymorth i ddioddefwyr trais domestig ac i’w teuluoedd, ers i sefydlydd i’r elusen gychwyn fel cleient yn salon masnachol y coleg.
Drwy i Rachel Court sbarduno’r dysgwyr Therapi Harddwch gyda’r hanes amdani ei hunan yn dianc rhag trais domestig a defnyddio’r profiad hwnnw i adael dylanwad cadarnhaol ar fywydau pobl eraill fel Llysgennad Cymorth i Ferched Cymru.
Un o’r myrdd prosiectau sydd gan yr elusen ydy cefnogi teuluoedd mewn tai diogel ymhell o sefyllfaoedd anodd yn ddomestig. Penderfynodd y dysgwyr wneud y tymor yn un arbennig i’r plant sy’n byw yn y llochesi hyn, a hynny drwy gyflwyno anrhegion Nadolig iddyn nnhw.
Dywedodd Jodie Cummings, 24 oed, o bentre Beddau: Mae wedi bod yn brofiad ffantastig i fod yn rhan o gasglu’r anrhegion ar gyfer elusen ‘Don’t Look Back’. Ar ôl clywed rhai o’r hanesion am yr hyn mae rhai wedi gorfod ei wynebu, a deall beth gellir ei wneud i helpu, roedden ni gyd yn awyddus i gymryd rhan. Mae’n braf meddwl ein bod wedi gallu cyfrannu rhywbeth i helpu rhywun arall i gael gwell Nadolig.”
Yn ôl y Tiwtor, Nicola Davies: “Rydw i’n falch iawn o’r dysgwyr hyn am fod mor barod i helpu ac am yr haelioni maen nhw wedi ei arddangos. Rydwi’n teimlo bod gwir angen cydnabod eu hymdrechion am yr holl roddion maen nhw wedi eu casglu ar gyfer plant.”
Yn ôl Rachel Court, sylfaenydd ‘Don’t Look Back’: “Wyddwn i ddim beth i’w ddweud ar ôl deall am eu caredigrwydd; unwaith eto mae dysgwyr y cwrs therapi harddwch wedi arddangos eu gallu i weithio’n wirioneddol galed ac i fod yn hael gyda’u cymwynasau. Diolch yn fawr i chi gyd.”
“