Teithiodd dau brentis Gwaith Trydan o’r Cymoedd i Goleg Gwent i gystadlu yng Ngwobrau Rhanbarthol Cymru Dysgwr y Flwyddyn y Cylchgrawn ‘Sparks’, yn erbyn dysgwyr o Goleg Gwent, Coleg Gŵyr, Coleg Caerdydd a’r Fro a JTL yn Birmingham.
Trefnir y gystadleuaeth gan ‘Sparks Magazine’ a’i noddi gan Schneider Electric ynghyd â sefydliadau a chwmnïau Electric Center, The IET, Napit, Ideal Industries, Prysmian a VW Commercial Vehicles. Mae’r gystadleuaeth yn cynnal chwe gornest ranbarthol ar draws Cymru a Lloegr i chwilio am dalentau gorau’r diwydiant o blith myfyrwyr gwaith trydan Lefel 2 a 3.
Yn cynrychioli’r coleg roedd George Phelps, 22 mlwydd oed o Bontypridd, a Paige Morris, 23 mlwydd oed, o Gaerffili; y ddau yn brentis Gwaith Gosodiadau Trydan, yn astudio ar Lefel 3 y Diploma NVQ EAL mewn Gwaith Gosodiadau Trydan ar gampws Ystrad Mynach, Coleg y Cymoedd.
Roedd y gystadleuaeth yn gofyn i’r dysgwyr wneud gosodiad ymarferol byw tra’n gweithio dan gyfyngiadau llym o ran amser, tasg oedd yn dipyn o her ond hefyd yn gyfle iddyn nhw arddangos eu sgiliau. Bu’r ddau ddysgwr yn cystadlu i safon eithriadol o uchel, gyda Paige yn cipio’r rownd ranbarthol a’r teitl ‘Dysgwr y Flwyddyn Rownd Rhanbarth Cymru Cylchgrawn Sparks’.
Mae ennill y rownd hon wedi sicrhau lle iddi yn y Rownd Derfynol lle bydd yn cystadlu yn erbyn yr enillwyr rhanbarthol eraill yng nghanolfan y ‘Schneider Electric Innovation Hub’ yn ninas Coventry ar Ebrill 27 a 28.
Wrth siarad ar ôl y gystadleuaeth, dywedodd Paige, “Roedd yn brofiad gwych i gymryd rhan yng Ngwobrau Dysgwr y Flwyddyn Rhagbrofion Rhanbarthol Cymru ar gyfer Sparks. Rwy’n edrych ymlaen at gystadlu yn y Rownd Derfynol a chynrychioli Coleg y Cymoedd. Hoffwn ddiolch i fy narlithwyr ac asesydd NVQ am y gefnogaeth dros 3 blynedd diwethaf o fy astudiaethau ac yn ystod y gystadleuaeth hon.
Wrth longyfarch Paige a George, ychwanegodd Ryan O Neill, Asesydd NVQ “Fe wnaeth y ddau ddysgwr waith ardderchog, maen nhw’n ddysgwyr galluog iawn ac mae ganddyn nhw ddyfodol disglair o’u blaenau.
“Mae’r adran Gwaith Trydan wrth eu bodd bod Paige wedi ennill y rownd yn gyfan, a dylai hi ymfalchïo ei bod wedi ennill y gystadleuaeth hon; mae’n glod i’r coleg a’i chyflogwyr yn ‘Starlight Electrical’. Dylai fod yn optimistig iawn ynglŷn â’r Rownd Derfynol yn Coventry”.