Dysgwyr y Cymoedd i astudio mewn rhai o brifysgolion mwyaf blaenllaw’r DU

Mae pedwar dysgwr coleg o gymoedd De Cymru yn mynd i dreulio eu haf yn cael blas ar fywyd mewn rhai o brifysgolion gorau’r DU.

Mae Josie Wood (17), Rhys Bracher (17), Daphne Rosser (16) a Josephine Lee (17), wedi sicrhau lleoedd ar gynllun nodedig Ysgolion Haf Ymddiriedolaeth Sutton a fydd golygu y byddant yn mynychu ysgolion haf am ddim ym meysydd o’u dewis yn rhai o’r prifysgolion mwyaf uchel eu parch ledled y wlad.

Bydd yr ysgol haf yn rhoi cyfle i’r dysgwyr o Gymru gael blas ar fywyd mewn dinas newydd yn ogystal â chael cipolwg ar y brifysgol a’u cyrsiau wrth iddynt fynychu darlithoedd a gweithdai yn y pynciau y maent yn gobeithio eu hastudio yn y dyfodol.

Bydd y dysgwyr, sydd i gyd yn astudio yng Ngholeg y Cymoedd ar hyn o bryd, yn cymryd rhan mewn ymweliad preswyl am wythnos yn rhai o brif sefydliadau’r DU gan gynnwys Prifysgol Caergrawnt a Choleg Prifysgol Llundain.

Mae Rhys Bracher o Bontypridd, yn un o’r dysgwyr sydd wedi’u dewis i gymryd rhan yn yr ysgol haf, gan sicrhau lle i astudio Gwyddorau Seicoleg ac Ymddygiad ym Mhrifysgol Caergrawnt. Wrth siarad am y cyfle, dywedodd: “Ar y dechrau doeddwn i ddim yn siŵr a oeddwn eisiau mynd i’r brifysgol, ond roeddwn i’n teimlo pe na bawn i, fyddwn i ddim yn cyflawni fy llawn botensial, felly penderfynais edrych i mewn i’r haf ysgolion ymhellach.

“Rydw i wedi cynhyrfu fy mod wedi sicrhau lle mewn prifysgol mor fawreddog ac uchel ei pharch â Chaergrawnt. Rwy’n edrych ymlaen yn fawr at gael cipolwg ar sut mae seicoleg yn cael ei ddysgu ar lefel uwch ac i ennill profiad uniongyrchol o astudio yn y brifysgol. ”

Bydd Josie Wood, o’r Coed Duon, yn mynd i ysgolion haf ym Mhrifysgol Caerfaddon a Durham i astudio Cemeg. Dywedodd: “Rwyf wastad wedi bod eisiau mynd i’r brifysgol ond roeddwn yn ansicr ble, felly roeddwn i’n meddwl y byddai hyn yn gyfle perffaith i weld sut le fydd y brifysgol. Rydw i wrth fy modd yn cwrdd â phobl eraill o’r un anian sydd â diddordeb yn yr un pwnc â mi a bydd yr ysgol haf yn rhoi profiad gwych imi ar gyfer yr yrfa mewn gwyddoniaeth yr wyf yn gobeithio ei dilyn.

”Wedi’i gynllunio i roi cyfle i bobl ifanc ddysgu mwy am y pwnc y mae ganddynt ddiddordeb ynddo ac i gael blas ar sut le fydd y brifysgol, bydd rhaglen Ysgolion Haf Ymddiriedolaeth Sutton yn ceisio rhoi i ddysgwyr y wybodaeth a’r profiad i wneud penderfyniadau mwy gwybodus am eu dyfodol mewn addysg uwch.

Hefyd yn cymryd rhan yn y rhaglen yr haf hwn bydd y dysgwyr Daphne Rosser a Josephine Lee, sydd ill dau yn bwriadu astudio yng Ngholeg Prifysgol Llundain am wythnos.

Bydd dysgwr o Bontypridd, Daphne, yn astudio Seicoleg gydag Addysg mae’n credu y bydd y lleoliad yn amhrisiadwy ar gyfer ei CV a cheisiadau prifysgol. Dywedodd: “Ar ôl darllen sylwadau gan gyn-fyfyrwyr sydd wedi cymryd rhan yn ysgolion haf Ymddiriedolaeth Sutton, roeddwn i’n gwybod y byddai hyn yn gyfle buddiol iawn imi. Bydd astudio yn UCL yn dangos sut fydd y pwnc mewn amgylchedd dysgu gwahanol a bydd yn ddefnyddiol iawn imi pan fyddaf yn gwneud fy mhenderfyniadau prifysgol ac yn llunio fy nghais. ”

Bydd Josephine, o Rydyfelin, yn cael blas ar radd yn y Saesneg. Mae hi’n gobeithio y bydd y profiad yn rhoi cyfle iddi weld a yw hi’n barod i symud i’r brifddinas. Ychwanegodd: “Mae mynychu prifysgol bob amser wedi bod yn uchelgais imi ac rwy’n gyffrous iawn i gael blas ar sut brofiad fydd astudio yn ninas Llundain. Mae’r Coleg eisoes wedi bod yn gam tuag at y brifysgol, ond bydd y rhaglen hon yn rhoi cyfle imi ryngweithio â phobl newydd a pharatoi yn well ar gyfer bywyd yn y brifysgol. ”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau