Cymerodd grŵp o ddysgwyr Adeiladwaith Coleg Cymoedd ran yng nghystadleuaeth Rhanbarth De Ddwyrain Sgiliau Adeiladwaith Cymru, a gynhaliwyd yng nghampws Ystrad Mynach.
Bu’r dysgwyr yn cystadlu mewn amrywiaeth o grefftau adeiladu gan gynnwys gwaith saer, paentio ac addurno a gwaith brics. Gwnaeth y dysgwyr, sy’n astudio cyrsiau Adeiladwaith yng nghampws Ystrad Mynach argraff, ar y beirniaid, gan ennill tri safle cyntaf a thri ail safle yn y gystadleuaeth.
Ryan Windmill (1af) Sgiliau Gwaith Coed; Kory Llewellyn (2il) Sgiliau Gwaith Coed
Meddai Martin Watkins, Pennaeth yr Ysgol Adeiladwaith a’r Amgylchedd Adeiledig yng Ngholeg y Cymoedd “Aeth y gystadleuaeth yn dda iawn; Gweithiodd yr holl rai dan sylw yn galed ac yn amlwg cawsant argraff ar y panel beirniadu gyda’u sgiliau. Rydym yn ymfalchïo ym mhob un o’u llwyddiannau. Maen nhw’n grŵp o ddysgwyr talentog ac mae ganddynt ddyfodol disglair o’u blaenau. Diolch yn fawr i’r staff a sicrhaodd bod y dysgwyr yn gallu cymryd rhan”.
Â
Macey Rees (1af) Peintio ac Addurno                 Garin Watkins (1af) Gwaith Saer
Dysgwyr llwyddiannus: – Macey Rees (1af) Peintio ac Addurno; Ryan Windmill (1af) Sgiliau Gwaith Coed; Kory Llewellyn (2il) Sgiliau Gwaith Coed; Garin Watkins (1af) Gwaith Saer; Rhys Williams (2il) Gwaith Saer; Cory Probert (2il) Gwaith Brics
Â
Rhys Williams (2il) Gwaith Saer                        Cory Probert (2il) Gwaith Brics
“