Dysgwyr y Cymoedd yn cael eu coroni’n Bencampwyr Undeb Rygbi Colegau Prydain ……. eto

Mae dysgwyr a staff Coleg y Cymoedd yn dathlu wrth i Sgwad dan 18 oed eu Coleg ennill eu gêm yn erbyn Academi Rygbi Seevic Storm, er mwyn ennill y teitl Pencampwyr Undeb Rygbi Colegau Prydain.

Teithiodd torf o gefnogwyr y Cymoedd i Glwb Rygbi Moseley, Birmingham gyfer y rownd derfynol ac ni chawsant eu siomi; wrth i’r tîm ennill o 75 i 11.

Mewn gêm fywiog, gwelodd gefnogwyr y ddau dîm rygbi rhagorol cyn i Goleg y

Cymoedd ymestyn eu mantais heb roi unrhyw siawns i’w gwrthwynebwyr frwydro’n ôl.

Dyma’r bedwaredd fuddugoliaeth yn olynol i Goleg y Cymoedd yn y gystadleuaeth hon.

Wrth sôn am y fuddugoliaeth a pherfformiad rhagorol y garfan hyd yma, dywedodd Lee Davies, Cyfarwyddwr Rygbi Dros Dro Coleg y Cymoedd:

Unwaith eto, mae llwyddiant eleni yn tynnu sylw at ansawdd a safon uchel y garfan rygbi yn y Cymoedd ac rydym yn falch o fod wedi cadw’r teitl mawreddog hwn yn erbyn tîm cryf fel Seevic.

 “Mae ymrwymiad a pharatoi’r bechgyn yn arwain at y gêm hon wedi bod yn rhagorol, gan ddangos rhai cyfnodau eithriadol o chwarae drwy gydol y gêm. “

Mae Academi Rygbi Coleg y Cymoedd yn cynnig i’r bechgyn hyfforddiant, dadansoddi a chryfder a chyflyru rhagorol er mwyn eu helpu i fanteisio ar eu potensial yn y gamp; wrth sicrhau eu bod yn cael eu paratoi yn academaidd, os na fydd eu gyrfa mewn rygbi yn cael ei gwireddu.

Dywedodd Judith Evans y Pennaeth, “Rydym wrth ein bodd gyda chanlyniad llwyddiannus y gêm a llongyfarchiadau mawr i’r garfan, i’r hyfforddwyr ac i bawb a gymerodd ran. Rydym yn falch iawn bod y rhaglen yn arwain at lwyddiant ar y cae ac yn eu hastudiaethau academaidd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau