Ymwelodd grŵp o chwe dysgwr Mwy Abl a Thalentog (MAT) o’r Rhaglen Lefel A yng Ngholeg y Cymoedd â Wellington College, Berkshire yn gynharach yn y mis. Gwahoddwyd y dysgwyr gan y Coleg, un o ysgolion preifat blaenaf y byd, i Gynhadledd Gwleidyddiaeth Ryngwladol ar y thema ‘Grym a Diogelwch’.
Roedd dysgwyr Coleg y Cymoedd, gydag Ian Rees, Rheolwr y Ganolfan Lefel A, ac Estelle Daly, Rheolwr Cwricwlwm ac Ansawdd Coleg Dewi Sant (partneriaid Coleg y Cymoedd yn y Ganolfan Lefel A) yn falch o gynrychioli Cymru gan ymuno â mwy na 200 o fyfyrwyr o Wellington College ac ysgolion blaengar eraill o ar draws Lloegr.
Mae gan y dysgwr Megan Howells gyfweliad ym Mhrifysgol Rhydychen i astudio’r Gyfraith cyn hir ac mae hi’n teimlo bod cynhadledd Wellington wedi bod yn ddefnyddiol ac yn amserol gan eu hannog i fynd i’r afael â gwybodaeth a chysyniadau blaengar.
Roedd rhaglen y gynhadledd yn cynnwys ystod o sgyrsiau, cyfweliadau a gweithdai ar bynciau amrywiol fel: Sut mae Geowleidyddiaeth yn helpu ffurfio Digwyddiadau’r Byd, Syria a’r Trawsnewidiad i Gyfundrefn Newydd, a’r Heriau sy’n wynebu Ffoaduriaid.
Ymhlith y siaradwyr roedd newyddiadurwyr enwog, athrawon prifysgolion ac uwch aelodau Lluoedd Arfog Prydain, a cyn-ffoadur ac ymgyrchydd dros hawliau ffoaduriaid. Hefyd, cafodd y dysgwyr y cyfle i brofi awyrgylch a chyfleusterau ardderchog y sefydliad byd-enwog hwn.
Dywedodd Ian Rees, ‘Dyma brofiad eithriadol o gyffrous ac rwy’n gobeithio y bydd y dysgwyr yn gallu ei ddefnyddio wrth ymgeisio am le mewn prifysgol neu fynychu cyfweliad am brifysgol elit’.