Mynychodd grŵp o ddysgwyr sy’n astudio ar y cwrs Therapi Harddwch Lefel 2 ar gampws Ystrad Mynach y digwyddiad Pampro Ymwybyddiaeth Dementia diweddar, a gynhaliwyd yng Nghlwb Golff Caerffili.
Darparodd y dysgwyr ystod o driniaethau harddwch ar gyfer gofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau, a gyfrannodd at lwyddiant y digwyddiad; a rhoes gyfle iddynt ymarfer eu sgiliau ar y cleientiaid.
Canmolodd Alicia Jones, Tiwtor, y dysgwyr gan nodi, “Rhoes y digwyddiad hwn gyfle i’r dysgwyr roi eu sgiliau ar waith. Roeddent yn rhagorol, yn amyneddgar iawn ac yn hynod broffesiynol. Rydym yn edrych ymlaen at gefnogi digwyddiadau fel hyn yn y dyfodol â€.
Wrth ddiolch i’r staff a’r dysgwyr, dywedodd Natalie Flowers, Cydlynydd Dementia a threfnydd y digwyddiad “Hoffwn ddiolch yn fawr iawn i’r coleg. Gall digwyddiad syml fel hwn gael effaith mor gadarnhaol ar ofalwyr a defnyddwyr gwasanaethau sy’n byw gyda dementia. Mae’n lleihau straen, ymdeimlad o arwahanrwydd a gall annog cefnogaeth werthfawr gan gymheiriaid. Gyda chefnogaeth y coleg a sefydliadau eraill, rydym yn gobeithio parhau i gynnig y gweithgareddau cymdeithasol hyn sydd yn fawr eu hangen er mwyn caniatáu i bobl sy’n byw ym Mwrdeistref Caerffili fyw’n dda gyda Dementia.
“