Mae dwy ddysgwraig o Goleg y Cymoedd wedi bod yn rhan o weithgaredd codi arian ar gyfer elusen cancr y fron yn siop Asda, Tonypandy.
Mae Crisian White a Courtney Mason, sy’n astudio cwrs Lefel 2 mewn Trin Gwallt ar gampws y Rhondda wedi cyfrannu at godi dros £1,000 drwy lywio gwallt aelod o staff yn binc.
Roedd Nash, sy’n gweithio ar y til, wedi gosod targed i’w hun o £1,000 ond roedd wrth ei fodd pan gododd £300 yn fwy na hynny.
Roedd y ddwy ddysgwraig yn hapus iawn gyda’r canlyniad “Rydym ni wrth ein bodd wrth fod yn rhan o godi arian dros achos mor deilwng; mae’n ganlyniad gwych a gwerth yr ymdrech. Roedd Nash yn gallu cymryd hwylâ€.
Dywedodd tiwtor y cwrs, Teresa Ridley Morgan “Fel coleg rydym ni bob amser yn awyddus i gefnogi achosion teilwng ac mae ein dysgwyr wedi bod yn rhan o lawer o weithgareddau codi arian. Roedd Crisian a Courtney yn awyddus i fod yn rhan o’r gweithgaredd hwn fel rhan o weithgareddau codi arian yn siop ASDAâ€.