Teithiodd grŵp o ddysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo o gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd i Goleg Llandrillo, Gogledd Cymru i gystadlu ym Mhencampwriaethau Coginio Rhyngwladol Cymru. Bwriad y digwyddiad, a gynhelir bob mis Chwefror, yw dathlu sgiliau coginio gwych y genedl a’r amrywiaeth gyfoethog o fwyd o ansawdd sydd ar gael.
Roedd y digwyddiad tri diwrnod yn gyfle i ddysgwyr arddangos eu creadigrwydd coginio, gan ddatblygu sgiliau arlwyo a phrofiad go iawn” o dan sefyllfaoedd o bwysau mawr.
Yn ystod y gystadleuaeth, rhoddwyd heriau â therfynau amser i’r dysgwyr, sy’n astudio cymwysterau Coginio Proffesiynol yng Ngholeg y Cymoedd, baratoi prydau yn y gegin gan gynnwys Cig Oen Cymru, helgig tymhorol, ffiledau pysgod clasurol, pwdinau oer; a pharatoi ffrwythau a llysiau ac arddangos eu sgiliau plygu napcynau.
Roedd ‘Tîm y Cymoedd’, a oedd yn cynnwys dysgwyr Lletygarwch ac Arlwyo sef Raj Singh, Maxine Robinson, Ryan Desmier, Alys Evans, Lucy Alchin, Jess Thomas, Matt Owens, yn cystadlu mewn nifer o gystadlaethau, ac enillwyd llu o fedalau rhyngddynt yn ystod y tri diwrnod. Ymhlith y rhain roedd 6 Gorau yn y Dosbarth, 1 Medal Aur, 13 Medal Arian, 10 Medal Efydd, 3 Thystysgrif Teilyngdod a 2 Wobr Eco.
Dywedodd Tiwtor y Cwrs Ian Presgrave a aeth gyda’r dysgwyr ar eu taith i Ogledd Cymru “Mae’r Tîm Coginio yn glod nid yn unig iddynt hwy eu hunain, ond i Goleg y Cymoedd. Roedd y gystadleuaeth yn eu rhoi o dan lawer o bwysau oherwydd y terfynau amser a safon uchel y cystadleuwyr ond yn sicr aethant i’r afael â’r her!”
Yn awyddus i ddangos eu sgiliau yn ôl yn y coleg gwahoddodd y tîm aelodau o’u teuluoedd ac aelodau o staff i ginio arbennig ym Mwyty’r Nant ar gampws Nantgarw. Cafodd y gwesteion eu tretio i brydau blasus a baratowyd ac a weinwyd gan y dysgwyr llwyddiannus.
Dywedodd Raj Singh sy’n 18 oed ac o Gaerdydd ac sy’n astudio Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol “Roedd y gystadleuaeth yn brofiad gwych, rhoddodd gyfle inni brofi ein sgiliau yn erbyn rhai o gogyddion mwyaf talentog y diwydiant. Hefyd, mwynheais ddiddanu fy nheulu ym mwyty’r Nant gan ddangos y sgiliau yr wyf wedi eu dysgu a’r mathau o brydau a weinir gennym yn ystod ein cwrs “.
I gael rhagor o wybodaeth neu i wneud cais am gyrsiau Lletygarwch ac Arlwyo, cysylltwch â Gwasanaethau Dysgwyr ar 01443 662800 neu ewch i www.cymoedd.ac.uk
“