Dysgwyr y Cymoedd yn dod â hwyl y Nadolig i’r gymuned leol

Wrth inni agosau at y tymor o ewyllys da, mae dysgwyr Coleg y Cymoedd wedi bod yn brysur yn casglu eitemau bwyd a theganau i greu basgedi Nadolig i’r gymuned leol.

Yn ystod yr un ar bymtheg mlynedd diwethaf mae’r Coleg wedi gweithio gyda Gwasanaethau Cymdeithasol yn lle cyntaf ac yn fwy diweddar mewn partneriaeth â Phlant y Cymoedd i sicrhau bod teuluoedd sy’n byw yn yr ardal o gwmpas campws Nantgarw yn gallu mwynhau tymor y Nadolig.

Mae dysgwyr Lefel 3 Gwasanaethau Cyhoeddus yng nghampws Nantgarw, dan arweiniad y tiwtoriaid, Sue Underwood Gibbs a Rachel Roberts wedi gweithio’n ddiflino ar y prosiect i godi arian a chasglu eitemau ar gyfer y basgedi. Wrth ddiolch ei dysgwyr, dywedodd Sue Ni allaf ganmol y dysgwyr ddigon am eu hymroddiad, eu hymrwymiad a’u gwaith caled yn ystod y prosiect cymunedol gwerth chweil hwn”.

Ffurfiodd 25 o ddysgwyr grŵp i gynllunio, trefnu a chasglu bwyd a rhoddion ar gyfer yr achos teilwng hwn. Yn gynharach yr wythnos hon, cyflwynwyd cyfanswm o 20 o eitemau bwyd a 200 o anrhegion Nadolig ar gyfer pob grŵp oedran i deuluoedd o fewn y gymuned leol.

Dywedodd Erika Taylor, Cydlynydd y Prosiect Plant y Cymoedd, menter datblygu cymunedol sy’n ymgymryd ag amrywiaeth o brosiectau yng nghymuned Rhydyfelin “Diolch yn fawr iawn i staff a dysgwyr y Coleg. Bu’n fraint gweithio mewn partneriaeth â’r Coleg a’r holl bobl ifanc sydd wedi treulio amser yn casglu’r anrhegion a’r parseli bwyd hyn “.

Ychwanegodd y Cynghorydd Maureen Webber, Aelod Etholedig Rhydyfelin, “Mae ymrwymiad ac ymroddiad y bobl ifanc hyn i’r achos hwn dros y blynyddoedd wedi bod yn rhyfeddol, rwyf yn siŵr y bydd pob un ohonynt yn datblygu’n ddinasyddion rhagorol a gweithgar. Rydym yn gobeithio y bydd y bartneriaeth hon yn parhau’n hir i’r dyfodol gan fod dros 5,000 o bobl yn Rhondda Cynon Taf bellach yn dibynnu ar fanciau bwyd, ac mae llawer o’r rhain yn blant.

Dywedodd y dysgwyr Gwasanaethau Cyhoeddus, Emily Carter ac Ellie Harvey, “Rydym yn falch iawn ein bod wedi cael y cyfle i weithio gyda Phlant y Cymoedd. Fe’n galluogodd i ddod ynghyd fel grŵp a gwneud gwahaniaeth yn ein cymuned leol, ynghyd â’n galluogi i ddatblygu ystod eang o sgiliau megis datrys problemau, cyfathrebu, rhifedd a gwaith tîm. Rydym yn gobeithio y bydd ein hymdrechion yn dod ag ychydig o hapusrwydd i’w bywydau y Nadolig hwn “.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau