Dysgwyr y Cymoedd yn elwa o brofiad gwaith yn yr Eidal

Teithiodd grŵp o ddysgwyr o Goleg y Cymoedd i’r Eidal i gymryd rhan mewn Rhaglen Erasmus. Dyrannwyd lleoliadau gwaith i’r deg dysgwr sy’n astudio ar y cwrs TGCh Lefel 3 ar gampws Aberdâr mewn nifer o sefydliadau Eidalaidd ger Pisa, Gogledd Orllewin yr Eidal i brofi’r diwylliant a’r iaith.

Er mwyn cynllunio’r daith, gweithiodd staff ar gampws Aberdâr wedi gyda choleg partner yn yr Eidal – CSCS.IT, a leolir yn Pistonia, Toscana. Roedd y lleoliadau a oedd yn cael eu cynnig yn amrywio o swyddfa pensaer i gwmni argraffu ond roedd yr holl leoliadau’n cynnwys amrywiol weithgareddau cyfrifiadurol.

Prosiect Symudedd Erasmus + yw rhaglen yr UE i gefnogi addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon yn Ewrop. Mae ei gyllideb o €14.7 biliwn wedi darparu cyfleoedd i dros 4 miliwn o Ewropeaid astudio, hyfforddi, a chael profiad dramor a alluogodd y daith addysgol hon.

Mae gwerth addysgol y daith Erasmus yn amlwg ond mae hefyd yn rhoi cyfle i’r dysgwyr brofi arferion gwaith gwerthfawr mewn gwahanol ddiwylliant. Roedd hyn yn cynnwys ehangu eu sgiliau Eidaleg mewn sefyllfaoedd o ddydd i ddydd, sydd wedi cynyddu eu hyder a’u hunan-barch yn fawr. I lawer, dyma oedd eu hymweliad cyntaf â gwlad Ewropeaidd, a fydd, gobeithio, yn rhoi awch newydd i’r dysgwyr deithio yn y dyfodol.

Yn ystod y lleoliad pythefnos, er mai’r prif ffocws oedd cael profiad gwaith trefnodd y staff raglen o weithgareddau diwylliannol gan gynnwys ymweliadau â Fflorens, Pisa a Lucca sy’n enwog am eu celf a phensaernïaeth y Dadeni gan ychwanegu dimensiwn dyfnach i brofiad y myfyrwyr.

Dywedodd y darlithydd TGCh, Michaela Jones, “Roedd y dysgwyr yn glod iddynt eu hunain ac i’r coleg wrth iddynt fynychu eu lleoliad gwaith ac ar yr holl ymweliadau diwylliannol a wnaethom. Rwy’n gobeithio bod y dysgwyr wedi mwynhau’r profiad ac y byddant yn parhau i deithio fel oedolion ”.

Mae Sam Portingale, 17 oed o Abercwmboi, yn astudio ar y cwrs TGCh Lefel 3 ar gampws Aberdâr ac roedd yn rhan o’r grŵp a deithiodd i’r Eidal. Dyrannwyd lleoliad gwaith i Sam yn y sefydliad argraffu Le Fotocopie, a roes gyfle iddo ddefnyddio offer argraffu amrywiol i lunio llyfrau clawr caled a chrysau-t. Dywedodd Sam, “Cawsom amser gwych a mwynheais y profiad cyfan o’r dechrau i’r diwedd”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau