Dysgwyr y Cymoedd yn gweddnewid Maes Chwarae’r Feithrinfa

Mae gardd y Feithrinfa yng nghampws Ystrad Mynach Coleg y Cymoedd wedi cael gweddnewidiad tebyg i ‘Ground Force’ diolch i grŵp o 20 o ddysgwyr.

Daeth y cyfle yn dilyn sgwrs rhwng Al Lewis, Pennaeth yr Ysgol Mynediad Galwedigaethol a Rheolwr y Feithrinfa Gail Harries; gan y byddai’r prosiect o fudd i’r plant ifanc ynghyd â’r dysgwyr a fyddai’n ennill profiad gwaith gwerthfawr i helpu i adeiladu eu sgiliau ar gyfer gyrfa yn y dyfodol.

Roedd y grŵp o ddysgwyr ar gwrs Adeiladu Mynediad Galwedigaethol E3 yn gyfrifol am y prosiect a buont yn gweithio gyda Dorian Adkins, Tiwtor y Cwrs i gydlynu a chynllunio’r cynllun, a fyddai’n darparu’r ardal chwarae awyr agored well i’r plant sy’n defnyddio’r feithrinfa.

Maent wedi treulio wythnosau yn tynnu hen blanhigion, yn ail-baentio waliau’r ardd ac yn paentio dodrefn gardd mewn lliwiau llachar. Cafodd y grŵp hefyd gymorth eu cydweithwyr yn yr adran Gwaith Saer i adeiladu planwyr pren. Bydd y planwyr yn rhoi offer i blant y feithrinfa dyfu eu blodau a’u llysiau eu hunain.

Dywedodd y dysgwr adeiladu, Tyler Davies, o’r Coed Duon, un o’r dysgwyr a oedd yn gweithio ar y prosiect Fe wnes i fwynhau helpu gwneud gwaith gardd a chymryd rhan gyda fy ffrindiau coleg. Defnyddiasom lawer o sgiliau yr oeddem wedi’u dysgu ar y cwrs fel paentio a gwaith coed. Mae’n dda fod gan blant y Feithrinfa rywle braf i chwarae “.

Gan ganmol y grŵp, dywedodd y Tiwtor Cwrs Dorian “Rwy’n falch iawn o’r bechgyn! Gwnaethant waith anhygoel yn adnewyddu gardd y feithrinfa ac maent wedi rhoi bywyd newydd iddi. Cawsant brofiad gwaith gwerthfawr ar hyd y ffordd a llwyddodd bron pob un o’r dysgwyr dan sylw ennill lle ar gwrs Lefel 1 llawn amser ym mis Medi.

Mae gennym ragor o brosiectau wedi’u trefnu ar gyfer dysgwyr y flwyddyn nesaf ac ynghyd â chwricwlwm newydd a gweithdy crefft newydd sbon, teimlwn y gallwn roi hwb gwirioneddol i’r dysgwyr yn y crefftau Adeiladu”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau