Dysgwyr y Cymoedd yn hwylio ar ‘Challenge Wales’

Treuliodd grŵp o 10 o ddysgwyr sy’n astudio ar y cwrs Chwaraeon a Gwasanaethau Cyhoeddus Mynediad 3 ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd ddau ddiwrnod llawn hwyl ar fwrdd y cwch hwylio fyd-enwog Challenge Wales”. Mae’r cwch yn 72 troedfedd o hyd ac fe’i sefydlwyd fel menter elusennol. Elusen ‘Challenge Wales’ yw un o’r sefydliadau gwaith ieuenctid mwyaf arloesol yng Nghymru, sy’n helpu pobl ifanc i gyflawni eu potensial. Mae’r gwirfoddolwyr yn rhoi miloedd o oriau bob blwyddyn i helpu pobl ifanc i ddatblygu eu sgiliau bywyd er mwyn wella eu rhagolygon cyflogaeth.

Ym mis Ebrill, cyfarchodd y criw cymwysedig ‘Challenge Wales’ a fyddai’n gweithio gyda’r grŵp ar y fenter hon, y dysgwyr a’r tiwtor Val Smith ym Marina Penarth, ger Bae Caerdydd. Cynhaliwyd sesiwn friffio diogelwch a chafodd y dysgwyr y wisg gywir cyn hwylio ar hyd yr arfordir, i Ogledd Gŵyr. Er mwyn sicrhau taith esmwyth chwaraeodd pob dysgwr ran hanfodol fel rhan o’r criw a buont yn helpu i lywio, hwylio, codi hwyliau a pharatoi a choginio prydau ar gyfer 12 aelod llwglyd o’r criw gan gynnwys prydau fegan!

 

Dywedodd Liam Harris, “Roedd yn wych cael y cyfle i hwylio ar gwch fel hwn, roedd yn waith caled ac roeddem yn brysur iawn. Bu’n rhaid inni i gydweithio’n agos i sicrhau diogelwch y criw a bod popeth yn mynd i gynllun. Fe wnaethom gyflawni dyletswyddau coginio a glanhau a sialensiau mwy cyffrous hwylio cwch, gan gynnwys llywio, dysgu’r rhaffau a chlymau a pharatoi’r hwyliau. Diolch i Mrs Smith am ganiatau i’r profiad ddigwydd.”

 

Dywedodd Valerie Smith, Tiwtor y Cwrs yng Ngholeg y Cymoedd, a aeth gyda’r dysgwyr ar y fordaith hwylio, “Cefais fy syfrdanu pa mor dda y croesawodd y dysgwyr y gweithgareddau a’r tasgau a ofynnwyd iddynt eu gwneud. Roeddent yn paratoi ac yn coginio’r prydau, yn glanhau’r cwch hwylio ac yn cymryd rhan yn frwdfrydig ym mhob agwedd ar hwylio. Mae’r cyfle hwn yn helpu i ddatblygu sgiliau gwaith tîm, gwella sgiliau cyfathrebu, datblygu hunanhyder a hunan-barch a gwella sgiliau cymdeithasol – tra’u bod yn cael cael amser da. Mwynhaodd ac elwodd dysgwyr cymaint o’r daith gan gynnwys cymhwyster ar gyfer achrediad Agored Cymru mewn Gwaith Tîm a sgiliau tuag at eu Gwobr Dug Caeredin. Y dysgwyr oedd Joseph Furgusson, Liam Harris, Troy Bingham, Mark Griffiths, Keian Woodington, Owen Morris.

 

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau