Dysgwyr y Cymoedd yn mwynhau bywyd Tysgani

Yn ddiweddar, treuliodd grŵp o ddysgwyr y Cymoedd ddeg diwrnod yn mwynhau bywyd yn Nhysgani – ymweliad a drefnwyd trwy Erasmus +; Rhaglen Undeb Ewropeaidd ar gyfer addysg, hyfforddiant, ieuenctid a chwaraeon.

Teithiodd y naw dysgwr a oedd yn astudio ar Ddiploma Lefel 3 Estynedig BTEC mewn Busnes a Phrentisiaid Gweinyddiaeth Fusnes Lefelau 2 a 3 gyda thri aelod o staff i’r Eidal fel rhan o Raglen Profiad Gwaith.

Rhoes y Rhaglen gyfle i’r dysgwyr dreulio amser mewn rhan hardd o’r byd; yn byw a gweithio mewn diwylliant gwahanol. Roedd y lleoliadau gwaith yn amrywiol iawn yn amrywio o ymgynghoriaeth busnes rhyngwladol, clybiau iechyd a ffitrwydd i gwmni twristiaeth, yn hyrwyddo gwibdeithiau yn yr Eidal ac yn blogio amdanynt.

Datblygodd a dangosodd y grŵp ystod eang o sgiliau busnes drwy gydol eu profiad gwaith. Roedd sgiliau cyfathrebu a datrys problemau rhagorol yn hanfodol bwysig, ynghyd â’r gallu i weithio fel rhan o dîm. Dangosodd y dysgwyr eu bod yn gallu addasu i sefyllfaoedd newydd, gan weithio’n hyblyg i ddiwallu anghenion eu sefydliadau. Fe wnaeth y cyfle hwn eu galluogi i ddangos annibyniaeth a dyfeisgarwch, gan roi hwb i’w hyder a’u hunan-barch.

Yn awyddus i brofi cymaint o’r wlad â phosibl, fe wnaeth y dysgwyr drio’r bwyd lleol yn Montecatini Therme, eu cartref yn ystod eu hymweliad. Ar y penwythnos, gwnaethant ddefnyddio system drafnidiaeth yr Eidal i ymweld â llawer o leoedd gan gynnwys Pisa, marchnadoedd Nadolig Fflorens ynghyd â diwylliant a mannau hardd Rhufain.

Dywedodd Paige Davies, prentis Lefel 3 yn GE Aviation a gymerodd ran yn yr ymweliad, “Roedd y daith i’r Eidal yn bendant yn un i’w chofio! Cawsom gyfle anhygoel i dreulio pythefnos yn ymgymryd â phrofiad gwaith mewn gwlad arall, nid yn unig yn darganfod sut mae cwmnïau eraill yn gweithredu ond hefyd yn ceisio ffitio i mewn i gwmni nad yw’n siarad yr un iaith.

Mae wedi fy helpu i sylweddoli bod rhwystrau ond yn rhwystrau os ydych yn gadael iddynt fynd yn groes i’r hyn yr ydych am ei gyflawni. Hefyd, mae’r profiad wedi fy helpu i fagu mwy o hyder nid yn unig yn fy hun ond hefyd yn fy ngallu a’m sgiliau i oresgyn pethau – cyflawni pethau na feddyliais erioed y gallwn ei wneud. Yn bendant mae wedi gwneud imi ystyried gweithio mewn gwlad arall yn y dyfodol. Byddwn yn bendant yn argymell y profiad hwn i bawb sy’n cael y cyfle!

Ychwanegodd Tiwtor y Cwrs, Yvonne Morris, a aeth gyda’r dysgwyr ar y daith, “Roedd y Rhaglen hon yn gyfle gwych i’n dysgwyr Busnes ennill profiad o weithio a byw mewn gwlad wahanol. Heb os, bydd y sgiliau a ddatblygwyd drwy eu lleoliadau a’r hyder a fagodd pob un o’n dysgwyr yn ystod eu hamser yn yr Eidal yn eu rhoi mewn sefyllfa dda ar gyfer eu gyrfaoedd yn y dyfodol a bydd yn rhywbeth y byddant yn ei gofio am flynyddoedd lawer”.

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau