Rhoes staff Cyngor Caerffili ddiolch i ddysgwyr Harddwch Coleg y Cymoedd am eu rhan yn un o’u digwyddiadau diweddar.
Derbyniodd trigolion lleol wahoddiadau i’r digwyddiad, a drefnwyd gan Dîm Adfywio Cymunedol Cyngor Caerffili i nodi’r hyn yr hoffent ei weld yn eu hardal; ac fel ‘diolch’ am fynychu cynigiwyd ystod o driniaethau maldodi iddynt a ddarparwyd gan ddysgwyr y Cymoedd.
Treuliodd y dysgwyr Harddwch, sy’n astudio ar y cwrs Therapi Harddwch Lefel 2 ar gampws Ystrad Mynach y diwrnod yng Nghanolfan Gymunedol y Fan, Caerffili yn darparu triniaethau i’r trigolion lleol.
Dywedodd Hayley Hunt, Cydlynydd Campws Ystrad Mynach ar gyfer Trin Gwallt a Harddwch . “Pan gafodd y coleg y gwahoddiad fe wnaethom ei dderbyn ar unwaith gan fod digwyddiadau fel hyn yn rhoi cyfle i’n dysgwyr weithio gyda chleientiaid a rhoi’r technegau maen nhw wedi’u dysgu ar eu cwrs ar waith. Mae’r profiad ymarferol hefyd yn cynnwys Gwasanaeth Cwsmeriaid ac Iechyd a Diogelwch. Cadwyd y dysgwyr yn brysur drwy gydol y bore gan ddarparu triniaethau ewinedd gyda thylino dwylo a breichiau.
Dywedodd Rhian Meaden, Trefnydd y Digwyddiad yng Nghyngor Caerffili “Rydym yn ddiolchgar iawn i Hayley a’i thîm am gefnogi ein digwyddiad. Roedd y digwyddiad yn gyfle delfrydol inni ymgynghori â thrigolion lleol ac rwy’n siŵr bod y cynnig o driniaethau maldodi am ddim wedi arwain at ymateb rhagorol. Rwy’n gobeithio bod y dysgwyr wedi ei chael hi’n fuddiol a gobeithio y gallwn ofyn iddynt am eu cefnogaeth mewn digwyddiadau yn y dyfodolâ€.