Mae dau o ddysgwyr Coleg y Cymoedd wedi bod yn creu cerflun ar gyfer achlysur elusennol mawr i godi arian at rai ddioddefodd yn naeargryn Nepal.
Gofynnwyd i ddau sy’n astudio Technoleg y Celfyddydau Perffomio ac yn arbenigo ar greu celfi i’r diwydiannau creadigol i greu cerflun mawr o Bwdha ar gyfer yr achlysur yn Llundain, i godi arian wedi’r trychineb naturiol erchyll yn Nepal.
Aeth y ddau gerflunydd talentog ati i greu’r gwaith ar gyfer y digwyddiad ym mis Tachwedd yn Clerkenwell – mewn arddangosfa fu’n ceisio egluro i’r prif gyfrannwyr ble roedd yr arian yn mynd ac at bwy.
Roedd yr achlysur yn cael ei lwyfannu drwy ‘Dresd in partnership’ a ‘Chapell productions’ gyda help y dysgwyr o Goleg y Cymoedd oedd yn gyfrifol am ddarparu’r cerflun mawr o Bwdha fel rhan o’r set.
Yn ystod yr achlysur rhyngweithiol, roedd y cleientiaid yn camu drwy leoliad ar ffurf golygfa wedi i ddaeargryn daro – er mwyn rhoi blas o’r hyn roedd pobl Nepal wedi’i brofi – ac yna roedden nhw’n camu ymlaen i ysgol dros dro, lloches i deulu a storfa.
Nod y digwyddiad oedd sicrhau rhagor o ariannu i barhau gyda’r gwaith dyngarol a wneir gan gronfa trychinebau’r ‘Disasters Emergency Committee’.
Yn ôl y tiwtor Celf a Dylunio, Alistair Aston: “Roedd hwn yn gryn sialens o ran adeiladwaith i’n myfyrwyr propiau, o ran maint y gwaith a’r prinder amser. Ond dyma’r math o brosiectau a phrofiadau sy’n magu sgiliau a phriodoleddau sydd eu hangen mewn diwydiant sy’n gorfod gweithredu’n gyflym.
Roedd y cleient wedi ei blesio’n fawr gyda’r canlyniad, ac wedi derbyn llawer o adborth cadarnhaol gan y rhai fu’n mynychu’r achlysur.”
Am ragor o wybodaeth am waith y ‘Disasters Emergency Committee’ ewch ar eu gwefan: http://www.dec.org.uk
“