Dysgwyr yn cyfnewid y dosbarth am gefn gwlad

Mae mam ifanc o Lantrisant wedi ei gwobrwyo am ei hymroddiad anhygoel i’w hastudiaethau tra’n brysur yn magu teulu.

Cafodd Victoria Windsor, sydd newydd gwblhau Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod, ei dewis yn ddysgwraig y flwyddyn Coleg y Cymoedd yn seremoni wobrwyo flynyddol UHOVI (Athrofa Prifysgolion Blaenau’r Cymoedd), nos Fercher Mehefin 18, yn Redhouse, Merthyr Tudful.

Pan gychwynnodd hi ar ei chwrs ar gampws Rhondda’r coleg, ‘doedd gan Victoria ddim hyder yn ei gallu academaidd, ond o fewn dim roedd hi wedi creu argraff ar ei thiwtoriaid oherwydd ei hagwedd broffesiynol tuag at ei hastudiaethau. Cafodd ei henwebu gan Shan Bowen a Helen Morgan, oedd yn ei disgrifio fel myfyrwraig llawn symbyliad wnaeth ddefnydd da o’i phrofiad cyfoethog ym maes gofal plant.

Dwedon nhw: Mae Victoria wedi rhagori yn ei phrofiad gwaith, gan arddangos awydd didwyll i gynorthwyo datblygiad plant. Mae ei hagwedd a’i chyfraniad personol yn ei gwneud yn esiampl bositif i bob ymarferydd ym maes gofal plant.”

Yn ôl Victoria, sy’n gobeithio cymhwyso fel athrawes ysgol gynradd: “Roedd ennill y wobr hon wedi fy synnu’n fawr, ond rydw i’n hapus iawn fod gan fy nhiwtoriaid ffydd ynof i. Roedd gen i wastad awydd mynd yn athrawes, ond ddim yn siŵr y gallwn ni gyflawni hynny. Mae mynd i’r coleg wedi fy helpu i symud yn nes at wireddu fy mreuddwyd ac mae’r holl waith caled yn profi’n bendant fod y cyfan yn werth chweil!”

Cyflwynwyr yr achlysur oedd Jagger a Woody o Heart FM, gyda’r gwobrau’n cael eu cyflwyno gan y gŵr gwadd, Dr Rhys Jones. Fel gwyddonydd a chyflwynydd teledu, mae Dr Rhys yn fwy cyfarwydd oherwydd ei gyfresi ‘Rhys to the Rescue’ a ‘Rhys Jones’s Wildlife Patrol’. Mae’n arbenigwr ar nadroedd ac mae ganddo radd mewn Sŵoleg a Geneteg, ynghyd â Doethuriaeth mewn cadwraeth ymlusgiad ym Mhrydain.

Fel rhan o Brifysgol De Cymru, mae UHOVI yn cynnig cyfleoedd i astudio cyrsiau addysg uwch mewn lleoliadau ar hyd a lled y cymoedd. Drwy gydweithio mewn partneriaeth â cholegau addysg bellach, busnesau, awdurdodau lleol a darparwyr addysg yn y gweithle, mae UHOVI yn ysgogi pobl i barhau gyda’u haddysg neu ddychwelyd ato er mwyn gwella’ui sgiliau neu ennill cymwysterau.

Dywedodd Grahan Rogers, Dirprwy Is-Ganghellor Prifysgol De Cymru a Chyfarwyddwr UHOVI: “Mae UHOVI wedi tyfu o nerth i nerth, gan ddarparu profiad dysgu o’r radd flaenaf i fyfyrwyr a phtrofiad o weithio mewn cymunedau i godi dyheadau. Mae’r myfyrwyr sy’n ennill gwobrau yn ysbrydoliaeth i bawb ac mae’n fraint cael rhannu eu profiadau sy’n dangos fel y gall dysg wneud gwahaniaeth positif i fywydau unigolion a theuluoedd.”

Ychwanegodd y Dr Rhys Jones, fu’n cyflwyno’r gwobrau: “Rwy’n falch iawn o allu cydnabod llwyddiannau’r unigolion rhagorol hyn. Mae eu gwaith caled a’u hymroddiad yn wir gredyd iddyn nhw, i’r tiwtoriaid ac i’w teuluoedd sy’n ymfalchïo ynddyn nhw ac wedi eu cynorthwyo ar eu taith academaidd. Rwy’n dymuno pob llwyddiant iddyn nhw i’r dyfodol yn eu gyrfaoedd.”

Share!

Aberdâr

Stryd Wellington
Aberdâr
Rhondda Cynon Taf
CF44 8EN

Nantgarw

Heol y Coleg
Parc Nantgarw
Caerdydd
CF15 7QY

Rhondda

Llwynypia
Tonypandy
Rhondda Cynon Taf
CF40 2TQ

Ystrad Mynach

Heol y Twyn
Ystrad Mynach
Hengoed
CF82 7XR

  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
  • Associate
Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen YouTube Mae Link yn mynd a chi i'n tudalen Instagram Accessibility
Map o’r safle Newyddion a Blogiau