Mae grŵp o ddysgwyr o Goleg y Cymoedd yn defnyddo’u sgiliau i greu cwiltiau ar gyfer yr elusen ‘Mothers of Africa’.
Bu 31 o ddysgwyr cwrs Diploma Lefel 1 mewn Celf a Dylunio yn pwytho cwiltiau i’w dosbarthu i ysbytai a chymunedau yn ardaloedd Is-Sahara cyfandir Affrica.
Mae tri grŵp o ddysgwyr wedi bod wrthi yn gweithio gyda Phrosiect Cwilt Noddedig ‘Mothers of Africa’o fis Ionawr hyd fis Mehefin. Cafodd pob grŵp saith wythnos i weithio ar dechnegau tecstilau arbrofol cyn cymhwyso’u sgiliau newydd i ddarn o waith clytwaith terfynol.
Mae’r cyntaf o gwiltiau cot y dysgwyr wedi’i gwblhau ac mae’r ail a’r trydydd ar fin cael eu gorffen. Mae Mothers of Africa wedi bod yn blogio pa mor llwyddiannus mae’r prosiect wedi bod a pha mor werthfawrogol maen nhw o waith y dysgwyr.
Bydd y cwiltiau hefyd yn cael eu harddangos yn arddangosfa diwedd blwyddyn yr adran Celf a Dylunio ar gampws Nantgarw. Bydd arddangosiad preifat ar 19 Mehefin ac yna bydd ar agor i’r cyhoedd am wythnos.
Dyma’r ail flwyddyn i’r adran Celf a Dylunio fod ynghlwm wrth y prosiect ar ôl i Esme Cowan, tiwtor Ffasiwn a Thecstiliau yng Ngholeg y Cymoedd gael eu hysbrydoli gan yr elusen.
Mae’r dysgwyr yn gweithio ar sgwariau ar gyfer tri chwilt cot a fydd yn barod erbyn yr haf; bydd y rhain yn cael eu hanfon i Affrica i helpu mamau sy’n rhoi genediaeth mewn ysbytai a chymunedau anghysbell yn Affrica.
Dywedodd un o’r tiwtoriaid, Sarah Brown: ‘’Mae ein dysgwyr wedi mwynhau’r prosiect hwn yn fawr iawn; mae wedi rhoi cyfle iddyn nhw ddysgu ystod o sgiliau tecstilau newydd a’u defnyddio i greu darnau prydferth, bu’n wych gweld eu hymdrechion yn mynd at achos mor dda.’’
Dywedodd Maggie Cullinane o Brosiect Cwilt Noddedig ‘Mothers of Africa’: “Mae’n wych derbyn tri chwilt gan ddysgwyr talentog y coleg a thrwy hynny yn codi arian ar gyfer ‘Mothers of Africa’. Diolch yn fawr i bawb a gyfrannodd, rydyn ni’n edrych ymlaen at weld y cwilitau gorffenedig!â€
Darllenwch flog Mothers of Africa ar: https://moaquilt.wordpress.com/diary/
Darllenwch sut dechreuodd popeth: www.moaquilt.wordpress.com
Gallwch gyfrannu yma: www.justgiving.com/moaquilt neu anfon neges testun MOAQ99 £2 i 70070