Mae Coleg y Cymoedd yn barod i gynnig cwrs unigryw wedi ei anelu at arlwywyr sydd am arbrofion i annog coginio sy’n addas ar gyfer feganiaid a llysieuwyr.
Mae cwrs rhan amser cyffrous newydd ei ddatblygu gennym ar gyfer arlwywyr sy’n dymuno astudio’r grefft o goginio prydau llysieuol. Wedi ei gymeradwyo gan yr Elusen Viva , lluniwyd y cwrs i hyrwyddo talent a chreadigrwydd yr unigolyn yn y maes coginio arbenigol hwn.
Bydd arlwywyr proffesiynol sydd am arbrofi gyda bwyd llysieuol a fegan yn dysgu’r gwahanol ofynion diet ar gyfer iechyd, moeseg a chrefydd, gyda lliwiau a blasau i greu prydau cyffrous, y gelfyddyd o greu prydau prydau syml heb gostio crocbris ac ystyried y tueddiadau cyfredol ym maes bwydydd gyda syniadau newydd a gwreiddiol.
Mae gan Goleg y Cymoedd fannau gweithio rhagorol a Chogydd/Maethegydd cymwys brwd yn Gydlynydd y Cwrs, sy’n galluogi’r Coleg i hyrwyddo a chyflenwi’r dull coginio fegan.
Bydd y cwrs yn gosod Cymru ar y map bwyta’n iach a chynhwysol ar gyfer amrywiaeth eang o chwaeth a blas.
Dywedodd Valerie Smith, Cydlynydd y Cwrs: “Dwi’n teimlo’n gyffrous iawn bod cwrs fel hyn yn cael ei gynnig; bydd yn wych i gynyddu’r opsiynau ar gyfer feganiaid, llysieuwyr a phobl yn dioddef o afiechyd Celiac yn yr ardal drwy hyfforddi nifer o arlwywyr.â€
Bydd y cwrs cyffrous hwn yn cael ei gynnig ar gampws Nantgarw Coleg y Cymoedd ac yn cychwyn ar Fedi 23ain 2014, bob nos Fawrth rhwng 5.00 pm ac 8.00 pm, ac yn para chwe wythnos. Y gost fydd £215 y pen. Am ragor o fanylion, cysylltwch â’n Gwasanaethau Cleient a Menter Busnes ar 01443 663024